Swyddog Arfarnu a Gwerthuso

3 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y r**ô**l**:
Sicrhau bod prosesau rheoli ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith yn cael eu gweithredu’n effeithiol ar draws y sefydliad a’u bod yn sicrhau iechyd a diogelwch pob Prentis a Myfyriwr sy’n ymgymryd ag Addysg Dysgu Seiliedig ar Waith.
- 37 awr yr wythnos
- Fros Fro - 12 mis
- £31,498 - £33,597 per annum
- Llys Jiwbilî, Abertawe

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Sicrhau bod y prosesau Arfarnu a Monitro a ddefnyddir yng Ngholeg Gwyr Abertawe yn ddigonol ac yn effeithiol, gan gydymffurfio’n llawn â Chod Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru a deddfwriaethau Iechyd a Diogelwch y DU.
- Meithrin perthynas gydweithredol â phersonél sy’n ymwneud â chyflwyno Dysgu Seiliedig ar Waith trwy greu fframwaith cydymffurfio sy’n creu sylfaen ar gyfer cyfarfodydd adrodd gyda’r Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith.
- Cynnal arfarniadau ar leoliadau gwaith cyflogwyr ar y cyd â staff darparu i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer Prentisiaid a/neu Fyfyrwyr Dysgu Seiliedig ar Waith.
- Ymchwilio i unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau gan sicrhau bod mesurau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith i atal damweiniau o’r fath rhag digwydd eto, ynghyd â sicrhau gofynion adrodd Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Iechyd a Diogelwch Gweithredol yn cael eu bodloni lle bo’n berthnasol.

**Amdanoch chi**:

- Diploma NEBOSH (Lefel 6)
- Dealltwriaeth o amgylcheddau mewnol ac allanol a’u heffaith ar y swyddogaeth iechyd a diogelwch
- Profiad a dealltwriaeth o God Ymarfer Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ôl-16

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Parcio am ddim
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Grwpiau cymorth staff: menopos, LGBTQ+, amser i siarad
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).