Rheolwr Coedyddiaeth

5 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae rôl y Rheolwr Coedyddiaeth yn rhan o Dîm Gweithredol y Gwasanaethau Cymdogaeth sy’n rhan o’r Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, o fewn Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Thai.

Mae ein cylch gwaith yn bellgyrhaeddol, gan gwmpasu'r mwyafrif helaeth o wasanaethau rheng flaen Cyngor Bro Morgannwg, gyda’r rôl hwn yn rheoli’r elfennau sy’n ymwneud yn benodol â Choedyddiaeth, megis:

- Rheoli a chynnal y coed o fewn ein parciau nodwedd, mannau agored a phriffyrdd gan ddefnyddio'r timau contractwyr sydd ar gael yn effeithiol.
- Rheoli'r Contract Coedyddiaeth presennol
- Ymgymryd â chontractau ar gyfer cwsmeriaid mewnol ac allanol.
- Rhoi cyngor technegol yn ôl y gofyn i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau.

**Ynglŷn â'r rôl**
Talu manylion: £37,261 i £41,496

Oriau Gwaith/Patrwm Gwaith: Dydd Llun i Ddydd Gwener 37 awr yr wythnos

Prif Weithle: Depo’r Alpau a gweithio hybrid gan gynnwys safleoedd a gartref

***Disgrifiad**:
Rheoli holl stoc coed y Cyngor yn effeithiol, a darparu’r holl waith cynnal a chadw sy’n ymwneud â Choedyddiaeth a rhoi cyngor technegol arbenigol.

**Amdanat ti**
Bydd angen i chi meddu ar y canlynol:

- Profiad mewn coedyddiaeth yn y gweithle
- Profiad wrth reoli ardal Goedyddiaeth.
- Profiad mewn rhaglennu, rheoli contractau a chaffael gwasanaethau
- Profiad o ddelio â chwsmeriaid, cleientiaid a rhanddeiliaid am faterion cymhleth sy’n ymwneud â choed.
- Arbenigedd mewn bioleg coed, rheoli risg coed, cynnal a chadw coed
- Gwybodaeth am fygythiadau biolegol presennol i goed yn y DU
- Cynefindra llwyr â’r Ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â meysydd fel Priffyrdd, Bywyd Gwyllt, Cynllunio a Diogelu Coed; a Chanllawiau Lleol a Chenedlaethol, gan gynnwys polisïau cynllunio, Safonau Prydeinig 3998, 5837 ac 8545
- Gwybodaeth dda am yr amgylchedd, cynllunio, priffyrdd, gwaith stryd, a deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch a chanllawiau diwydiant sy’n ymwneud â choed
- Sgiliau cyfathrebu da, y gallu i gyflwyno cyflwyniadau i randdeiliaid ynghylch clefyd coed ynn a strategaethau sy’n gysylltiedig â choed
- Dealltwriaeth dda o'r dechnoleg bresennol: defnyddio technoleg gwybodaeth, gan gynnwys meddalwedd rheoli coed ac offer diagnostig
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â staff a chwsmeriaid
- Llawn cymhelliant gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Y gallu i ymdrin â’r cyhoedd mewn ffordd broffesiynol.
- Y gallu i weithredu ag uniondeb, gonestrwydd ac eglurder bob amser

**Gwybodaeth Ychwanegol**
A oes angen gwiriad gan y GDG: Nac oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Adam Sargent, Rheolwr Gwasanaethau Cymdogaeth, Gwasanaethau Cymdogaeth [gweithrediadau]

Gweler y disgrifiad swydd/fanyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00467