Tiwtor/aseswr I Trydanol
3 weeks ago
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y r**ô**l**:
**Mae cyfle cyffrous wedi codi yn ein tîm Amgylchedd Adeiledig i benodi Darlithydd Trydanol newydd.**
- Llawn Amser (37 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £28,351 - £31,202 y flywyddyn
- Tycoch a Jubilee Court campws
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Asesu a dilysu portffolios yn fewnol i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y gwahanol wirwyr allanol a chyrff dyfarnu
- Gweithio gyda chwsmeriaid mewn diwydiant i gynnal a meithrin perthnasoedd
- Darparu profiad addysgu a dysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr
**Amdanoch chi**:
- Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant gyda chymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn Trydanol neu bwnc cysylltiedig
- Yn ddelfrydol feddu ar, neu fod yn gweithio tuag at, gymhwyster addysgu cydnabyddedig a dyfarniad TAQA/V1
- Meddu ar sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i weithio'n hyblyg, ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm
**Buddion**:
- 28 diwrnod (pro-rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
-
Tiwtor Aseswr Gwaith Brics
6 days ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...
-
Tiwtor Cemeg
7 days ago
Swansea, United Kingdom Swansea University Full time**Prif ddiben y swydd** Er mwyn cyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod yn un o'r 30 o brifysgolion gorau, mae angen ar Brifysgol Abertawe weithlu â'r sgiliau amrywiol angenrheidiol i sicrhau ei bod yn gallu cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwil, addysgu, dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ac i fod yn bwerdy ar gyfer economi'r rhanbarth ac yn...
-
Darlithydd Banc Peirianneg
4 weeks ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Darlithydd Banc Peirianneg** **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol...
-
Tiwtor/aseswr Interniaethau â Chymorth
4 weeks ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...
-
Gweinyddwr Cydymffurfiaeth