Current jobs related to Cydlynydd Achosion - Cardiff - Cardiff Council
-
Cydlynydd Eiddo Gwag
4 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Mae swydd wag ar gael ar hyn o bryd ar gyfer Cydlynydd Eiddo Gwag yn y Gwasanaethau Landlord o fewn Tai a Chymunedau. **Am Y Swydd** Cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gyda phwyslais penodol ar ddarparu gwasanaethau o fewn yr Uned Rheoli Eiddo Gwag, gan gynorthwyo â gweinyddu...
Cydlynydd Achosion
3 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai.
Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn.
**Am Y Swydd**
Swydd dros dro yw hon i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth tan 23.8.2024.
Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal leol yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown a Butetown a bydd datblygiadau eraill yn agor y flwyddyn nesaf.
Mae’r rôl yn cynnwys darparu gwasanaeth cymorth pendant sy’n seiliedig ar drawma i gleientiaid a'u teuluoedd mewn llety dros dro, gan arwain y cleientiaid tuag at sicrhau a chynnal llety hirdymor, diogel a phriodol.
Fel Cydlynydd Achosion, byddwch yn gyfrifol am reoli eich llwyth achosion eich hun, am gefnogi cleientiaid i nodi’r gwasanaethau sydd fwyaf addas i’w hanghenion nhw a rhai eu teuluoedd ac am gefnogi cleientiaid i ymgysylltu â’r gwasanaethau hynny
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolion dynamig a chreadigol a all feithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous ac rydym yn chwilio am amrywiaeth o bobl o gefndiroedd gwaith gwahanol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddai profiad o weithio gyda phobl ag ymddygiadau cymhleth a dealltwriaeth o’r problemau a wynebir gan unigolion a/neu deuluoedd digartref yn fanteisiol.
Bydd gennych brofiad o weithio gyda chwsmeriaid wyneb yn wyneb a gwybodaeth ymarferol dda am gynllunio cymorth a diogelu.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu, gweinyddu a TG da a byddwch yn gallu datrys cwynion gan
gwsmeriaid mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.
Byddai’r gallu i siarad iaith gymunedol o fantais.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03100