Cydlynydd Marac

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae'r Tîm Diogelwch Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth i leihau trosedd ac anhrefn ac ofn trosedd ym Mro Morgannwg.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 6, PCG 14-19, £25,409 - £27,852

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr, Dydd Llun i Ddydd Gwener

Prif Weithle: Gorsaf Heddlu'r Barri / gweithio o bell

Dros Dro: Cytundeb 9 mis o'r dyddiad cychwyn - cyfle secondiad

**Disgrifiad**:
Mae angen unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant arnom i ymuno â'r Tîm Diogelwch Cymunedol. Mae'r rôl hon yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm creadigol a deinamig i ddatblygu a chydlynu'r ymateb Amlasiantaethol ar gyfer diogelu dioddefwyr cam-drin domestig.

**Amdanat ti**
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau ar sail partneriaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r Fro.
- Y gallu i ddangos tact, diplomyddiaeth ac agwedd anfarnol.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i flaenoriaethu gwaith dan bwysau.
- Manwl gywirdeb rhagorol.
- Y gallu i feithrin a chynnal perthnasau gwaith cadarnhaol ac effeithiol.
- Agwedd llawn empathi tuag at gleientiaid agored i niwed.
- Y gallu i ganolbwyntio ar ddatrysiadau.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod o dîm.
- Y gallu i ddelio’n sensitif â chleientiaid ac i gynnal cyfrinachedd.
- Y gallu i aros yn ddigynnwrf ac i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd brys.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, TG a llafar gwych.
- Y gallu i sefydlu a monitro systemau casglu data.
- Yn barod i weithio oriau anghymdeithasol yn ôl yr angen i fynychu cyfarfodydd gyda’r nos.
- Y gallu i yrru/teithio ar hyd a lled y Fro rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol;

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae archwiliad cefndir Lefel 3 gan yr Heddlu yn ofynnol.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Julie Grady 01446 450200.

Job Reference: EHS00427