Gweithiwr Plant a Phobl Ifanc Ar Trac
5 months ago
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:
- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd
Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.
Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.
**Cefnogi Plant a Phobl Ifanc**
- Datblygu perthnasau syn iach a diogel
- Teimlon ddiogel yn eu cartrefi
- Deall eu profiadau
- Adeiladu gwytnwch a strategaethau ymdopi cadarnhaol a datblygu sylfaen ar gyfer dyfodol hapus a iach.
- Mynegi eu hunain yn ddiogel, ac adnabod a blaenoriaethu eu hanghenion eu hunain
- Gwaith grŵp - teimlon rhan or gymuned
- Annog Iechyd a llesiant
- Hybu gwell iechyd meddwl
**Cyfle gwych i wneud gwahaniaeth i Blant a Phobl Ifanc ledled Cymru, mae elusennau cam-drin yn y cartref yn ymuno i gefnogi plant ledled Cymru**
Amcangyfrifir bod 133,053 o blant yng Nghymru wedi profi neu wedi bod yn dyst i gam-drin domestig. Gall y profiadau niweidiol hyn yn ystod plentyndod gael effaith enfawr ar blant a phobl ifanc, ond mae'r opsiynau atgyfeirio yn gyfyngedig oherwydd y diffyg cefnogaeth Plant a Phobl Ifanc arbenigol sydd ar gael.
Er mwyn mynd ir afael âr angen hwn, mae Cymorth i Ferched Cyfannol, Calan DVS, Cymorth i Ferched Caerdydd, Gorwel, a DAS Gorllewin Cymru wedi dod ynghyd i gyflwynor prosiect Ar Trac i blant 5-16 oed ar draws 10 sir yng Nghymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.
**Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn**
**Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng**
**Cynllun Cefnogaeth Symudol ac Ymyrraeth Argyfwng**
Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol ac Ymyrraeth Argyfwng gennym yn cefnogi merched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.
**Y Pecyn**
**Math o gytundeb**:Tymor penodol am 12 mis
**Cyflog**:£23,157 y flwyddyn
**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol
**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol
**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
**Buddiannau**
Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth
Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas
Cynllun arian parod iechyd Westfield Health
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu
Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu
**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion
2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru
Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol
Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol
**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd
**Y Swydd**
Disgrifiad Swydd Cymraeg Gweithiwr Plant a Phobl Ifanc Ar Trac GC611.pdf
Job Description Children Young People Worker Ar Trac GC611-00.pdf
**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.
**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
-
Cydlynydd Prosiect Atal Digartrefydd
6 months ago
Gwynedd, United Kingdom GISDA Full time**DISGRIFIAD SWYDD** **THIS IS A JOB WHERE THE ABILITY TO SPEAK AND WRITE WELSH** **FLUENTLY IS ESSENTIAL** **TEITL SWYDD **Cydlynydd Prosiect Atal Digartrefedd **LLEOLIAD **Gwynedd - Swyddfa Caernarfon **ORIAU **37 awr yr wythnos **CYFLOG **B3.5: £23,022.63 - £25,947.01 **CYTUNDEB **parhaol **PRIF BWRPAS Y SWYDD** Cydlynu gwaith atal digartrefedd...
-
Project Worker
6 months ago
Gwynedd, United Kingdom Nacro Full timeProject Worker - Floating - Gwynedd Job type - Permanent/Part Time Salary - £16174.35 per annum Hours - 27 hours per week (includes 45-minute lunchbreak) Location - Home Based with travel around the south of Gwynedd (Driving License and access to vehicle essential) Gweithiwr Cefnogol - Cefnogaeth Symudol - Gwynedd Math o swydd: Parhaol/Rhan...
-
Cydlynydd Actif Gisda
6 months ago
Gwynedd, United Kingdom GISDA Full time**THIS IS A JOB WHERE THE ABILITY TO SPEAK AND WRITE WELSH FLUENTLY IS ESSENTIAL** I gyfrannu at nod strategol Llesiant GISDA i sicrhau llesiant gwell i bob person ifanc drwy gydlynu amryw o ddarpariaeth actif (chwaraeon, cadw'n heini, diet a mwy) yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, cefnogaeth uniongyrchol, gweithgareddau a gweithdai. - Cydlynu ac arwain ar holl...
-
Relief Pharmacist
5 days ago
Gwynedd, United Kingdom Fferyllwyr Llyn Cyf Full timeJob summary Weare looking to recruit enthusiastic like-minded pharmacists to join our innovativeand developing company. We have vacancies for pharmacist looking for a challengingand rewarding career with a passion for providing excellent patient care in ourlocal communities. We offer competitive rates of pay, a company pension schemeand a strong...