Goruchwylydd Goleuadau Stryd

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Goleuadau Stryd y Gweithrediadau Cynnal a Chadw Priffyrdd ar gyfer Goruchwylydd Goleuadau Stryd/Trydanol. Mae'r tîm yn gyfrifol am gynnal, atgyweirio a gosod asedau goleuadau stryd priffyrdd y Cyngor ac am gynorthwyo adrannau eraill i gynnal a chadw eu hoffer cysylltiedig.

**Am Y Swydd**
Swyddogaethau craidd y swydd hon fydd goruchwylio a rheoli llinell dîm o Drydanwyr / Cynorthwywyr Lampau Gyrwyr yn yr adran Gweithrediadau Cynnal a Chadw Priffyrdd. Byddwch yn blaenoriaethu gwaith sy'n dod gan bob cwsmer/gwasanaeth a dosbarthu gwaith yn unol â pholisïau, adnoddau a chyfyngiadau amser y Cyngor. Bydd gofyn i chi reoli gwaith cynnal a chadw a gosod sy'n gysylltiedig â'r briffordd fabwysiedig ac asedau eraill. Yn ogystal, byddwch yn gyfrifol am sicrhau iechyd a diogelwch darpariaeth y tîm i gwsmeriaid, gan gynnwys cynnal ymweliadau diogelwch safle, ac ymateb i bob argyfwng sydd angen gwaith atgyweirio/i'w wneud yn ddiogel.

Yn ogystal â'r swyddogaethau craidd, bydd gofyn i chi hefyd gymryd rhan yn ymateb brys ar y briffordd a gwasanaethau cynnal a chadw'r gaeaf, gan gynnwys gwaith penwythnos a gyda'r nos posibl.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rhaid bod â phrofiad o waith gosodiadau trydanol i safon tystysgrif City and Guilds C ac o gynnal a chadw priffyrdd.

Rhaid bod yn meddu ar statws goruchwylydd gwaith stryd a Goruchwylydd Cymwysedig Sector 8 NHSS neu yn y broses o ennill y rhain.

Bod yn hyblyg o ran sut caiff y gwaith ei wneud.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn gofyn am:

- Wybodaeth ymarferol am iechyd a diogelwch ar y safle.
- Y gallu i gymryd rhan mewn galwadau y tu allan i oriau a goruchwylio gwaith a gynlluniwyd y tu allan i oriau gwaith arferol.
- Defnyddio technoleg a chyfarpar TG.
- Gweithio yn yr awyr agored ym mhob tywydd ac mewn amryw o leoliadau yn Ninas a Sir Caerdydd.
- Cynnal enw da’r Cyngor drwy fabwysiadu dull proffesiynol a chwrtais o weithio.

Mae'r swydd yn barhaol ac mae trefniadau gweithio hyblyg y Cyngor ar gael.

Gwerthuswyd y swydd ar Radd 7 gyda band cyflog o £32,020 - £36,298 (yn aros dyfarniad cyflog 2023/24).

Yn ogystal â chynllun pensiwn hael, mae'r Cyngor yn darparu hawl gwyliau blynyddol sylweddol gan ddechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, ynghyd ag amser i ffwrdd ar gyfer gwyliau banc. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr sy’n cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae gennym amrywiaeth helaeth o bolisïau wedi’u dylunio i helpu cyflogeion i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. y bydd y swydd hon yn gallu manteisio arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jay Manson ar 02920 785236 neu Chris Mithcel ar 02922 330980 yn Adran Gweithrediadau Cynnal a Chadw Priffyrdd - depo Brindley Road.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PLA00340