Darlithydd Mewn Hanes

2 weeks ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

Amdanom ni:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am gynnig addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe, dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr mawr yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff ac rydym yn gofalu am eu lles er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a hefyd gartref

Y Rôl:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol a brwdfrydig ymuno a thîm addysgu Hanes Coleg Gwyr Abertawe. Mae’r rôl hon yn barhaol a ffracsiynol a bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyflwyno cwricwlwm Hanes Safon Uwch CBAC. Mae Hanes yn gwrs poblogaidd iawn yng Ngholeg Gwyr Abertawe, felly dyma gyfle i chi ymuno ag adran lewyrchus sydd ag agwedd gadarnhaol a chefnogol at addysgu a dysgu.
- Rhan-amser (18.5 awr yr wythnos)
- Parhaol
- £24, 049 - £47,331 pro rata
- Campws Gorseinon

Cyfrifoldebau Allweddol:

- Gweithio gyda’r tîm i gyflwyno’r cymhwyster Hanes Safon Uwch, gan sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu, dysgu ac asesu ar draws cyrsiau UG ac A2.
- Cynllunio, paratoi ac addysgu’r cwrs Hanes Safon Uwch gan sicrhau bod cynlluniau gwaith ac asesiadau yn cael eu cynnig yn unol â manylebau’r corff arholi.
- Sicrhau bod strategaethau addysgu a dysgu a deunyddiau addysgu yn cael eu cynllunio ymlaen llaw i ddiwallu anghenion dysgwyr.
- Gweithio gyda’r Arweinydd Cwricwlwm a’r Rheolwr Maes Dysgu i osod targedau a monitro perfformiad mewn perthynas â recriwtio, presenoldeb, cadw cyrhaeddiad a chwblhau’n llwyddiannus.
- Cadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran datblygiadau cwricwlwm, gwybodaeth am eich pwnc a datblygiadau arloesol mewn addysgu a dysgu.

Amdanoch chi:

- Bydd gennych radd addas mewn a chymhwyster addysgu cydnabyddedig.
- Bydd gennych brofiad helaeth o addysgu Hanes Safon uwch ac yn angerddol am y pwnc.
- Byddwch yn gyfathrebwr hyderus iawn, yn ymroddedig ac yn meddu ar allu i ysgogi ac ysbrydoli dysgwyr o bob gallu.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i weithio mewn tîm.
- Y gallu i weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Buddion:

- 28/46 diwrnod o wyliau blynyddol, gwyliau banc a phythefnos o wyliau dros gyfod y Nadolig pan fydd y Coleg ar gau.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad cyflogwr cyfartalog o 21% (2023).
- Cynllun Pensiwn Athrawon gyda chyfraniad cyfartalog cyflogwr o 23% (2023)
- 2 ddiwrnod lles staff.
- Cyfleoedd addysgu â disgownt ar raglenni’r Coleg.
- Aelodaeth campfa Canolfan Chwaraeon am bris gostyngol o £60 y flwyddyn

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad ar hyn o bryd.

Os hoffech chi barhau i gwblhau’ch cais yn Gymraeg, ewch i’n gwefan Gymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu ein gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc a disgwylir i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn.

Gwneir penodiadau yn amodol ar wiriad DBS a bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Cyflog sy’n gyfwerth ag amser llawn: £24,049 - £47,331 y flwyddyn yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.



  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **0.6 Darlithydd mewn Busnes** **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Darlithydd Banc Peirianneg** **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol...


  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    Byddwch yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth addysgol a phersonol i fyfyrwyr gydag anawsterau dysgu a/neu gorfforol gan sicrhau bod eu hanghenion cefnogi mewn cyd-destun yn cael eu diwallu’n llwyr. Byddwch yn darparu cefnogaeth un i un neu gefnogaeth grwp o dan gyfarwyddyd y Darlithydd yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein, ac yn helpu gyda datblygu sgiliau...


  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Prif Ddiben y Swydd** - Bydd gan ddeiliad y swydd hanes cryf mewn rôl lywodraethu, o fewn amgylchedd addysg uwch yn ddelfrydol. Bydd ganddynt, neu byddant yn datblygu’n gyflym, ddealltwriaeth o’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer addysg uwch yng Nghymru a ledled y DU a gwybodaeth ragorol o fframwaith llywodraethiant polisïau a gweithdrefnau’r...