Cynorthwywyr Creche

4 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â’r gwasanaeth**
Yng Nghaerdydd credwn y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau ar eu gorau i blant pan dderbyniant gefnogaeth er mwyn tyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan fod teuluoedd yn deall eu plant hwy eu hunain. Dyma’ch cyfle i ymuno ag un o’r gwasanaethau arloesol a blaengar niferus sy’n rhan o Dîm Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae gan y Tîm Cymorth Cynnar ddull amlasiantaethol sy'n ceisio lleihau nifer y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sydd angen gwasanaethau statudol a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwneud atal busnes pawb. Ein nod yw meithrin gwydnwch ymhlith plant a theuluoedd fel bod ganddynt y gallu i oresgyn eu hanawsterau eu hunain am weddill eu hoes.
**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd Cynorthwywyr Crèche Cymorth Cynnar yn helpu i ddarparu darpariaeth crèche o ansawdd ar gyfer plant y mae eu rhieni'n mynychu Rhaglenni Rhianta gyda Gwasanaethau Rhianta Caerdydd. Byddant hefyd yn helpu i ddarparu gofal o ansawdd a chyfleoedd chwarae i blant rhwng 2 a 3 oed ar draws lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg. Swydd yn ystod y tymor yn unig yw hon gyda chyfleoedd gyrfa a datblygiad gwych ar gyfer ymgeiswyr cymwys Lefel 1 a Lefel 2 (Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - CCPLD)./35 awr yr wythnos Post i ddechrau Medi 2024.

Dyma beth mae cynorthwywyr creche presennol yn ei ddweud ‘_Mae’n wych gallu gweld beth sy’n digwydd ar draws yr holl Grwpiau Rhianta wrth weithio yn y meithrinfeydd - llwyth o gyfleoedd ar gyfer dilyniant hefyd’_

Cysylltwch â rheolwr y gwasanaeth Sarah Mackay ar 07817955443 os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r uchod
**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Hanfodol: cymhwyster mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD Lefel 2 o leiaf) - gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person am ragor o wybodaeth.

Rhaid cael profiad o weithio mewn lleoliad crèche (dan 4) a chymhelliant a brwdfrydedd am weithio gyda phlant bach a’u teuluoedd.

Mae angen profiad o gynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau i ysgogi plant bach a chadw eu diddordeb

Mae dealltwriaeth o, a phrofiad o ymwneud â, materion diogelu yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn hanfodol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau COVID-19, rydym yn darparu rhaglenni ar draws platfform rhithwir.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.

Mae’r cyflog hwn yn amodol ar yr Atodiad Cyflog Byw sy’n ychwanegu at y gyfradd sylfaenol o gyflog i £9.50 yr awr.Bydd yr atodiad yn cael ei adolygu bob mis Ebrill.Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw.Swyddi dros dro yw’r rhain tan 31 Mawrth 2025.

Job Reference: PEO02887