![Gower College Swansea](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Dadansoddwr Data
1 week ago
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y rôl**:
Diben y rôl yw darparu dada dadansoddol a chymorth digidol a gweinyddol i’r Tîm Dysgu Seiliedig ar Waith Canolog, gan gynnwys Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd, Cydymffurfiaeth, Recriwtio, Ymgysylltu â Chyflogwyr. Bydd gofyn i chi hefyd gydweithio â’r Tîm Rheoli Uwch lle bo angen.
Darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon gan gynnal cofnodion a diwallu anghenion gweinyddu'r Adran Dysgu Seiliedig ar Waith. Byddwch yn cydymffurfio â manylebau’r cytundeb DSW, gweithdrefnau’r adran a gweithdrefnau’r Coleg. Yn ogystal, byddwch yn gweithredu yn unol â manylebau Cymraeg a Saesneg y cytundeb.
- Llawn amser - 37 awr yr wythnos
- Parhaol
- £26,907 - £29,242 y flwyddyn
- Abertawe - campws Llys Jiwbilî
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Adolygu a datblygu holl ffrydiau digidol Dysgu Seiliedig ar Waith, gan sicrhau bod data'n cael ei ddefnyddio'n SMART bob amser.
- Gweithredu fel cyswllt mewnol allweddol i gynnal ein ffrydiau DSW.
- Gweithredu fel cyswllt allweddol ar gyfer partneriaid data cyllid allanol megis Maytas, LLWR ac ESFA.
- Hybu’r defnydd o ddadansoddiad Power BI byw i sicrhau eich bod yn cynllunio cynulleidfaoedd er mwyn gwneud penderfyniadau mwy effeithlon.
- Darparu cymorth digidol i reolwyr a staff mewn perthynas â pherfformiad y cytundeb a defnyddio proffiliau ariannol.
- Gweithredu fel cyswllt hyfforddiant allweddol ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a staff cyflwyno ar ddefnyddio ein ffrydiau digidol.
**Amdanoch chi**:
- Cymhwyster Lefel 4 neu gyfwerth mewn maes perthnasol megis Dadansoddeg Data / Gweinyddu Busnes / TG
- Lefel 2 (Gradd A-C) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg
- Hanes o weithio mewn rôl weinyddol neu ddadansoddol.
- Gwybodaeth o GDPR a phrofiad o drin gwybodaeth sensitif a chymhwyso arferion gorau diogelwch gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau rhyngbersonol gwych.
- Sgiliau gweinyddol cryf.
**Buddion**:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Cynllun Pensiwn Athrawon a chyfraniad cyflogwr o 23% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
**Angen cymorth gyda’ch cais? **Cliciwch ein tudalen canllaw.**
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).