Gweithiwr Celf

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Careers Wales Full time

**Gweithiwr Celf**

**Lleoliad**:i’w benderfynu ar benodiad**

**Cyflog**: Gradd 2 - £22,625 - £24,493 (yn dechrau ar £22,625)

**Oriau Gwaith**: 37 awr yr wythnos, Llawn Amser

**Math o Gontract**: Parhaol

**Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu gwasanaethau cyfarwyddyd ac anogaeth gyrfa sydd yn hanfodol, annibynnol, diduedd a dwyieithog i bob oed yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen Cymru’n Gweithio.**

Rydym fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell, yn fwy creadigol, yn gryfach, yn gyffredinol yn hapusach, ac wrth gwrs - dyna'r peth iawn i'w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn drawsnewidiol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, yn galluogi gwelliannau parhaus yn yr hyn a wnawn ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi ymrwymo i gael gweithlu sydd, ar bob gradd swydd, yn cynrychioli'r dinasyddion yr ydym yn eu gwasanaethu.

**Amlinelliad o'r swydd**:

- Cynorthwyo'r dylunwyr graffeg i ddatblygu a gweithredu presenoldeb ar-lein a marchnata Gyrfa Cymru. Yn gyfrifol am greu gwaith celf digidol a phrint i gefnogi datblygiad gwefan gyrfacymru.llyw.cymru, a marchnata brand Gyrfa Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau TGCh mewn meddalwedd CC Adobe InDesign, Photoshop, ac Illustrator. Bydd gennych hefyd wybodaeth am gydymffurfedd gwe a hygyrchedd yn Adobe Acrobat a phrofiad o weithio o fewn canllawiau brand a chydymffurfio â nhw. Rhaid i chi feddu ar sgiliau gosodiad a theipograffyddol cryf a gwybodaeth am ffontiau a'r gallu i osod ffeiliau gwaith celf i fanylebau argraffwyr. Yn ddelfrydol bydd gennych sgiliau mewn archifo delweddau a gwaith celf, trefnu ac enwi ffeiliau a ffolderi yn gywir ar y gweinydd.
- Buddiannau deniadol, gan gynnwys amser hyblyg, 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser), gweithio hybrid, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl yn ymwneud ag iechyd._

I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn **9am 07 Gorffennaf 2023.**

Cyhelir y cyfweliadau yng Nghaerdydd neu yn Wrecsam yn dibynnu ar leoliad yr ymgeisydd.
- Sylwch nad ydym yn derbyn ceisiadau CV. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg._

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd a statws trawsryweddol, hil neu ethnigrwydd, crefydd a chred (gan gynnwys dim cred), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy'n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy'n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau wrth recriwtio ac yn cael ei drosglwyddo drwy ein holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’n gwaith - yn cefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.