Hyfforddwr Achlysurol
7 months ago
**Amdanom ni**
Fel hyfforddwr chwaraeon yn y Tîm Byw'n Iach, ein blaenoriaethau yw cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol / nifer y preswylwyr sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae ein gwaith yn cwmpasu ystod eang o oedrannau sy'n amrywio o flynyddoedd cynnar i bobl hŷn drwy wahanol brosiectau.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Gradd 5, PCG 8 £24,702 pro rata, £12.80
Oriau Gwaith: Gwaith achlysurol - yn unol â’r gofyn
Prif Waith: Amrywiol leoliadau ar draws y Fro
**Disgrifiad**:
Yn dibynnu ar eich sgiliau a'ch rhinweddau, gallai rhai o'r prosiectau y gallech fod yn ymwneud â'u cyflawni gynnwys:
- Darparu gweithgareddau chwaraeon amser cinio / ar ôl ysgol i bobl ifanc mewn ysgolion lleol neu helpu gyda chyflwyno gwyliau.
- Cynnig gweithgareddau a gemau chwaraeon fel rhan o brosiectau cymunedol yn ystod y gwyliau. Gallai'r rhain fod mewn partneriaeth â'n tîm chwarae neu fel sesiynau a phrosiectau aml-chwaraeon annibynnol a allai gael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol neu gyda'r nos / ar benwythnosau.
- Cyflwyno sesiynau i’r teulu ar gyfer y blynyddoedd cynnar.
- Darparu o fewn prosiectau yn y gymuned i grwpiau wedi'u targedu fel merched, pobl hŷn.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Manwl
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Rachel Shepherd - 01446 704808
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00001