Cydlynydd Cwnsela Ysgolion a Chymunedau Scs375
2 weeks ago
Ydych chi yn gwnselydd profiadol sy’n ymroddedig i wella llesiant emosiynol plant a phobl
ifanc yn Sir Fynwy? Rydym yn edrych am berson gyda chymhelliant uchel, trefnus a
myfyriol i arwain y Tîm Cwnsela Ysgolion a Chymunedau. Byddwch yn cydlynu tîm o
gwnselwyr a gweithwyr llesiant mewn ysgolion a chymunedau ledled Sir Fynwy i sicrhau
fod y gwasanaeth yn effeithiol a bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad teg i wasanaeth.
Byddwch yn chwaraewr tîm cryf gyda sgiliau cyfathrebu gwych ac ymroddiad i gydweithio
gyda phob gweithiwr proffesiynol.
**Cyfeirnod Swydd**: SCS375
**Gradd**: SCP 23-27 G (£30151 - £33820)
**Oriau**: 37 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig
**Lleoliad**: Neuadd y Sir, Brynbuga
**Dyddiad Cau**: 02/06/2023 12:00 pm
**Dros dro**: Ie, tan 31 Mai 2024
**Gwiriad DBS**: Oes