Uwch Reolwr Busnes, Policywise

1 week ago


Edinburgh, United Kingdom The Open University UK Full time

**Unit**: Various units
**Salary**: £43,414 - £51,805 (Gradd 8)
**Location**: Belfast Cardiff Edinburgh Home Based Milton Keynes Various locations
**Please quote reference**: 20278
37 awr yr wythnos; Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026
**Closing Date**: 12 January, 2023 - 12:00

**Uned**: Brifysgol Agored
**Cyflog**: £43,414 - £51,805 (Gradd 8)
**Lleoliad**: Hyblyg - Rydym yn gweithredu system gweithio hybrid a gall deiliad y swydd ddynodi unrhyw un o leoliadau'r Brifysgol Agored ar gyfer ei swyddfa (Caerdydd, Belfast, Caeredin neu Milton Keynes)
Bydd lleoliad gweinyddol PolicyWISE yn swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru, sydd yng Nghaerdydd, a bydd peth disgwyl i chi deithio i leoliadau eraill y Brifysgol Agored pan fo angen.
**Dyfynnwch y cyfeirnod hwn**: 20278
**Hyd**:Hyd at 37 awr yr wynthnos, cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2026
Rydym yn hapus i glywed gan unigolion sydd a diddordeb mewn patrymau gweithio hyblyg
**Dyddiad Cau**: 12 Ionawr 2023, 12 hanner dydd

**Y Rôl**

Menter polisi cyhoeddus newydd yw PolicyWISE, sydd wedi cael ei datblygu gyda gweision sifil ac academyddion polisi, a gafodd ei gynnull a'i gefnogi gan Y Brifysgol Agored. Nod PolicyWISE yw ffurfio rhwydwaith gwybodaeth traws-wladol sy'n rhoi gwybod am bolisi llywodraeth ym mhob awdurdodaeth, trosoledd mewnwelediad polisi cymharol a'u rhoi ar waith i ddatrys heriau polisi cymhleth. Arweinir PolicyWISE gan Y Brifysgol Agored a'i chynnal yma gan weithio gyda phrifysgolion partner o bob gwlad yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, a gwneuthurwyr polisi a thimau gweithredu yn y llywodraethau hynny a phobl broffesiynol ym maes polisi. Menter cyfnewid gwybodaeth yw hon ac rydym yn sefydlu tîm bychan o weithwyr proffesiynol a staff ymchwil i lunio a llywio'r fenter gydweithredol hon.

Bydd yr Uwch Reolwr Busnes yn aelod allweddol o'r tîm PolicyWISE newydd a fydd yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr PolicyWISE, a bydd yn cefnogi’r Cyfarwyddwr i ddatblygu strategaethau PolicyWISE a'r gwaith o ddarparu gwasanaeth gweithredol. Bydd ganddynt gyfrifoldeb am y gwaith o reoli a goruchwylio strwythurau llywodraethu, adrodd a chynaliadwyedd ariannol. Bydd yr Uwch Reolwr Busnes yn gweithio'n agos gydag aelodau'r tîm i reoli cydberthnasau rhanddeiliaid mewnol ac allanol cadarnhaol, rhagweithiol a chydweithredol.

Bydd yr Uwch Reolwr Busnes yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr PolicyWISE, a fydd yn gweithio'n hyblyg o un o bedair gwlad y DU, ac yn adrodd iddo.

Lleolir tîm cymorth PolicyWISE yn swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghaerdydd er bod patrymau gweithio hybrid a hyblyg yn ffyrdd arferol o weithredu bellach.

Rydym yn hapus i glywed gan ymgeiswyr cymwysedig a fydd yn dymuno gweithio o un o swyddfeydd eraill y brifysgol, a gan y rhai sydd â diddordeb yn y rôl nad ydynt yn dymuno gweithio'n llawn amser a byddwn yn trafod â'r ymgeiswyr hyn sut y gallwn ystyried patrymau gweithio amrywiol.

Mae'r rôl hon yn gofyn am unigolyn brwdfrydig, hunan-ddisgybledig sy'n gallu aml-dasgio, gyda'r gallu i weithio'n effeithiol dan bwysau. Profiad o ddatblygu partneriaeth ac mae'r gallu i reoli prosiectau cymhleth yn angenrheidiol.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol.

**Sut i Wneud Cais**

Os na fyddwch wedi clywed gennym o fewn wythnos i ddyddiad cau'r cais, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad ar yr achlysur hwn, ond rydym yn ddiolchgar i chi am ddangos diddordeb ac yn eich annog i wneud cais am swyddi yn y dyfodol.

Ni dderbynnir unrhyw geisiadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y rôl hon cysylltwch â Tom Poultney ar 029 20 26 27 16 a fydd yn trefnu amser cyfleus i'r rheolwr cyflogi gysylltu â chi am sgwrs.

**Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a adlewyrchir yn ein cenhadaeth i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Ein nod yw meithrin amgylchedd amrywiol a chynhwysol fel y gall ein holl staff gyflawni eu potensial a denu ymgeiswyr amrywiol. Rydym yn cydnabod bod pobl wahanol yn cyfrannu safbwyntiau, syniadau, gwybodaeth a diwylliant gwahanol a bod yr amrywiaeth hon yn gryfder