Porthor NOS

3 months ago


Conwy, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.

Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.

Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Rydym yn chwilio am unigolyn angerddol i ymuno ân Cynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Awel y Coleg, Bala. Cynllun o 30 o fflatiau a mannau cymunedol ar gyfer pobl hŷn.Byddwch yn darparu gwasanaeth Porthor Nos o 10yh - 7yb gan gynnwys gwasanaeth glanhau y mannau cymunedol. Byddwch hefyd yn sicrhau diogelwch ein tenantiaid a'r adeilad gan gynnwys gweithdrefnau tân ac argyfwng ar safle.

Mae hwn yn gyfle cyffrous ir person cywir; rhywun syn ffynnu mewn amgylchedd gefnogol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd âr un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw.

Dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni ac rydyn nin chwilio am rywun brwdfrydig i sicrhau darpariaeth glanhau cyffredinol yr adeilad.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl hŷn, hon ywr swydd i chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysylltwch â Sian Ellis, Arweinydd Tîm Pobl Hŷn, ar 0300 111 2122.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb**:Parhaol

**Cyflog**:Cyflog Byw, £12 yr awr

**Lleoliad**: Awel y Coleg, Bala

**Oriau Gweithio**: 18 awr yr wythnos ar sail rota

**Gwyliau**:30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal âr gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd (pro rata)

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Disgrifiad Swydd**

Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra, 'rydym yn gweithio'n galed i oresgyn y broblem cyn gynted â phosib.

**Buddiannau**

**Pecyn Buddion.pdf**

**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd

**Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol**

Canllawiau cwblhau cais

Cyfweliadau: 17.05.24

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl/Oedolyn ar gyfer y swydd hon.