Athro Cymraeg

2 weeks ago


Vale of Glamorgan, United Kingdom Oaklands College Full time

College
- Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg
- Location
- Y Barri, Vale of Glamorgan
- Contract Type
- Temporary
- Hours
- Full Time
- Contract Length
- Cyfnod Mamolaeth
- Salary
- M2-UPS3
- Posted
- 20th June 2023
- Start Date
- To be confirmed
- Expires
- 3rd July 2023 09:00 AM
- Contract Type
- Temporary
- Start Date
- To be confirmed
- Job ID
- 1347653
- Job Reference
- Cymraeg

Swydd: Athro Cymraeg

Pwynt/ Graddfa Cyflog: M2-UPS3

Cytundeb: Cyfnod Mamolaeth

Oriau: Llawn amser

Hysbyseb: 20fed o Fehefin 2023

Dyddiad Cau: 3ydd o Orffennaf 2023 (09:00)

Swydd i ddechrau: Hydref 2023

Dewch i ymweld

Mae'r Llywodraethwyr am benodi unigolyn cymwys a thalentog i ymuno â staff Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wedi ei lleoli yn nhref y Barri ac yn gwasanaethu Sir Bro Morgannwg. Cyflawnwyd gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn 2021 ac o ganlyniad mae’r cyfleusterau sydd ar gael i addysgu plant a phobl ifanc Y Fro drwy gyfrwng y Gymraeg yn fodern ac yn addas er mwyn eu paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Edrychwn am athro rhagorol, sydd yn dangos angerdd tuag at y pwnc a chyrhaeddiad ein disgyblion.

Arwyddair yr ysgol yw ‘Dyro dy law i mi ac fe awn i ben y mynydd’. Ein bwriad yw i adeiladu yn bellach ar lwyddiannau yr ysgol hyd yma ac i sicrhau fod pawb sy’n dysgu ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn derbyn y cyfleoedd gorau i gyrraedd pen eu mynydd personol.

Adran y Gymraeg

Rydym yn adran lwyddiannus sy’n ymfalchïo yn ein canlyniadau TGAU a Safon Uwch. Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’r disgyblion ac yn herio pob unigolyn i lwyddo yn y pwnc. Cynigir ystod eang o brofiadau addysg er mwyn diwallu anghenion pob un disgybl. Mae’r pwnc yn boblogaidd fel opsiwn yn y chweched dosbarth gyda niferoedd da yn astudio’r pwnc.

Mae naw athro yn yr adran a phawb yn gyfeillgar a chefnogol iawn i'w gilydd. Rydym wrthi yn treialu cynlluniau newydd Cwricwlwm i Gymru ac yn gyffrous am y cyfle i fod yn greadigol ac i ddatblygu ein disgyblion yn ôl y 4 Diben. Cynigir ystod o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys teithiau i Wlad Belg, i ogledd Cymru i glywed siaradwyr gwadd ac ymweld â lleoliadau o bwys i'r cwrs TGAU. Addysgir y gwersi mewn ystafelloedd modern gyda bwrdd gwyn rhyngweithiol ym mhob ystafell.