Cyfieithydd Cymraeg

3 weeks ago


Remote, United Kingdom CITB Full time

**Cyfieithydd Cymraeg / Welsh Translator**
**Starting salary/Cyflog cychwynnol: £31,575 p.a.**
**Grade/Gradd: E**
**Location/Lleoliad: Wales/Cymru**
**Home Based - Gweithio o adref**

Nod CITB yw arwain y sector adeiladu drwy esiampl i sicrhau tegwch, cynhwysiant a pharch i bawb. Rydym yn ceisio datblygu gweithlu sy’n adlewyrchu poblogaeth amrywiol Prydain ac mae pobl o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yn cael eu hannog i wneud cais am swyddi gwag.

Ein prif amcan yw creu diwylliant sy’n helpu ein holl gwsmeriaid i ymgyrraedd at weithlu sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw.

**Pwrpas y rôl**:
Fel Corff Cyhoeddus Anadrannol, mae gan CITB ddyletswydd statudol i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol o ran y Gymraeg; bydd rôl y Cyfieithydd yn helpu’r sefydliad i sicrhau ei fod yn bodloni’r meini prawf perthnasol ar gyfer darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru. Bydd y Cyfieithydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig yn bennaf i CITB.

**Prif gyfrifoldebau ac atebolrwydd**:
Darparu gwasanaeth cyfieithu proffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg sydd o’r safon uchaf ac o safon sy’n addas i’w gyhoeddi.

Trosi amrywiaeth eang o gynnwys sy’n amrywio o ohebiaeth a negeseuon e-bost safonol i wybodaeth fwy manwl a thechnegol, dogfennau canllaw a chyhoeddiadau sy’n ymwneud yn benodol ag adeiladu, yn aml yn gweithio'n uniongyrchol i systemau rheoli cynnwys gwefannau. Bydd angen gwneud rhywfaint o gyfieithu cyfreithiol.

Gweithio gyda’r asiantaethau cyfieithu allanol i sicrhau lefelau uchel o gywirdeb a chysondeb drwy: gynghori ar derminoleg; rhannu ffeiliau terminoleg a chof cyfieithu; rhannu adnoddau; codi unrhyw faterion ansawdd; prawf ddarllen a golygu; a rheoli llif y gwaith sy’n mynd allan i asiantaethau allanol.

Cydlynu a goruchwilio ceisiadau am gyfieithiadau, gan sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu cofnodi a’u rheoli’n effeithiol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt. Penderfynu pa gyfieithiadau sy’n briodol i’w cadw’n fewnol a pha rai y dylid eu hanfon at asiantaeth allanol, gan ystyried eich llwyth gwaith eich hun a gwariant CITB.

Cysylltu ag awduron dogfennau ac adrannau eraill lle mae angen gwell dealltwriaeth o’r pwnc e.e. Polisïau a Gweithdrefnau, Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, dogfennau canllaw. Bydd hyn yn golygu rhyngweithio â gwahanol swyddogaethau a rhannau o’r sefydliad.

Sicrhau cywirdeb gwaith drwy ddefnyddio’r termau mwyaf priodol i’r pwnc a’r bobl a fydd yn ei ddarllen, yn ogystal â phrawf ddarllen eu gwaith eu hunain, a gwaith y staff a'r asiantaeth gyfieithu.

Sicrhau Cymraeg o safon uchel yn holl ddeunydd print ac ar-lein CITB, gan gynnwys llyfrynnau, taflenni, posteri, y wefan, cyfryngau cymdeithasol a fideos.

Cynllunio a blaenoriaethu gwaith cyfieithu yn unol â gofynion ei lwyth gwaith ei hun; prawf ddarllen, fformatio, adolygu a chywiro dogfennau dwyieithog yn ôl yr angen.

Sefydlu a chynnal cronfa ddata o waith cyfieithu a gwblheir yn y sefydliad ac yn allanol, cysylltu ag arbenigwyr eraill yn y maes a chynorthwyo i goladu data ar gyfer yr adroddiad dadansoddol chwarterol o'r gwaith cyfieithu a dderbyniwyd, at sylw Rheolwr yr Iaith Gymraeg.

Helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol i sicrhau bod CITB yn bodloni ei ofynion o dan ei ddyletswydd statudol. Gall hyn olygu ailflaenoriaethu gwaith, awgrymu bod gwaith yn cael ei gwblhau’n allanol, a darparu gwell gwasanaeth ar gyfer rhyddhau cynnwys y we a’r cyfryngau cymdeithasol yn y ddwy iaith ar yr un pryd.

**Gwybodaeth a Phrofiad**:
**Hanfodol**
- Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth
- Profiad sylweddol o gyfieithu a phrawfddarllen o'r Saesneg i'r Gymraeg ac i'r gwrthwyneb
- Meddu ar aelodaeth sylfaenol Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu fod yn barod i weithio tuag ati
- Dealltwriaeth hyderus o nodweddion naturiol, gramadeg a chystrawen y Gymraeg a’r Saesneg
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd cof cyfieithu, Trados yn ddelfrydol
- Deall TG a meddu ar wybodaeth ymarferol dda am becynnau Microsoft Office
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur, yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Profiad o negodi terfynau amser sy’n addas i bob parti a gweithio’n effeithlon yn unol â’r rhain
- Profiad o weithio dan bwysau ac o fewn amserlenni tynn, a blaenoriaethu gwaith yn unol â hynny
- Gallu gweithio’n hyblyg ac fel aelod o dîm
- Bod yn frwdfrydig dros y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig

**Dymunol**
- Aelodaeth lawn Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Gradd yn y Gymraeg neu gyfwerth
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddf yr Iaith Gymraeg / Mesur y Gymraeg (Cymru)
- Profiad o ddefnyddio systemau rheoli cynnwys ar y we

**Amodau Arbennig/Gofynion Eraill**:

- Parodrwydd i deithio i gyfarfodydd ac i ddigwyddiadau o bryd i’w gilydd i gefnogi’r tîm cyflawni

**Budd-daliadau**:

- 25 diwrnod o wyliau y flwyddyn (+ 8 gŵyl banc/cyhoeddus)
- Trefniadau gweithio hyblyg fel gweithio o adre
- Buddiannau hyblyg gan gynnwys prynu/gwerthu gw