Cydgysylltydd Cymorth Busnes

3 months ago


Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

Ydych chi’n drefnus a manwl? Beth am ymgeisio i ymuno o’n tîm Gweithyddiaeth o fewn i’r Adran Cymorth Busnes yng Ngrwp Colegau NPTC?

Graddfa 4, Pwyntiau 21 - 24, £25,354 - £27,304 y flwyddyn.

Parhaol, amser llawn.

37 awr yr wythnos (gall gynnwys gyda'r hwyr ac ar benwythnosau).

**Ynglyn â chi**:Yn ddelfrydol bydd gennych gymhwyster Lefel 4 mewn Gweinyddiaeth Fusnes (HNC neu gyfwerth) a phrofiad perthnasol. Dylai ymgeiswyr hefyd feddu ar gymwysterau lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda phrofiad o weithio gyda MS Word ac Excel). Mae profiad o reoli gweithdrefnau a chydlynu staff yn hanfodol.

**Ynglyn â ni**:Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau’r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda’n staff addysgu hynod gymwys a’u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

**Pam y dylech chi weithio i ni?**

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Mae'r rhain yn cael eu gweinyddu trwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac yn darparu pensiynau sy'n cael eu cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu dros £21 i'ch pensiwn, am bob £100 y byddwch yn ei ennill.

Mae'r lwfans gwyliau yn ardderchog o flwyddyn 1. Mae gennych 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn (yn codi i 32 yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth), a gan ein bod yn cau’r Coleg am hyd at 5 diwrnod dros y Nadolig, mae hyn yn golygu hyd at 5 diwrnod o wyliau ychwanegol. Gyda’r 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus/banc ar ben hyn, gallech elwa o 41 diwrnod o wyliau blynyddol. Dyma yw cydbwysedd bywyd-gwaith

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabothol a rhannu swydd, lle mae'n bodloni anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim i iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth Cymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae’r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant ymroddedig, sy’n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o’n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi’ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn oll, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi’r fraint i ni o fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig


  • Gweithiwr Cymorth

    3 months ago


    Neath, United Kingdom Stori Full time

    Gweithio mewn tîm i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion a theuluoedd sydd, neu sydd wedi bod yn destun cam-drin domestig, yn sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni yn unol â gofynion contract yr awdurdod lleol. Gellir teilwra patrwm sifft i gyd-fynd ag argaeledd ymgeisydd llwyddiannus. Os ydych chi'n hoffi gweithio yn rhywle lle...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadrannau Adnoddau Dynol a Datblygu Staff yng Ngrwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£12,348 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn adran Systemau Gwybodaeth Busnes Grwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£9,280 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37 awr yr wythnos...


  • Neath, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Ydych chi'n chwilio am eich cam cyntaf mewn gyrfa? Oes gennych chi ddiddordeb mewn Gweinyddiaeth Busnes? Mae hwn yn gyfle gwych i ennill cyflogaeth, profiad a chymwysterau yn ein hadrannau Adnoddau Dynol a Datblygu Staff yng Ngrwp Colegau NPTC. **Cyflog**:£9,280 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol). 37...


  • Neath, Neath Port Talbot, United Kingdom Network Rail Full time

    Disgrifiad CrynoByddwch yn gyfrifol am reoli a chyfarwyddo'r Tîm Cymorth Technegol a'r Technicians yn y Ganolfan Reoli i ddarparu cymorth ar gyfer cynhyrchu, perfformiad, sicrwydd, technegol, dadansoddiad, a chynnal ansawdd data i'r tîm Peirianneg Cynnal a Chadw. Hefyd, byddwch yn cynnig cymorth i'r Peiriannydd Cynnal a Chadw Signalau a Thelathrebu wrth...

  • Cynorthwy-ydd Signal

    2 weeks ago


    Neath, Neath Port Talbot, United Kingdom Network Rail Full time

    Disgrifiad Cryno Byddwch yn gyfrifol am reoli a chyfarwyddo'r Tîm Cymorth Technegol a'r Technegwyr yn y Ganolfan Reoli er mwyn darparu cymorth ar gyfer cynhyrchu, perfformiad, sicrwydd, technegol, dadansoddiad, a chynnal ansawdd data i'r tîm Peirianneg Cynnal a Chadw. Hefyd, byddwch yn cefnogi'r Peiriannydd Cynnal a Chadw Signalau a Thelathrebu wrth...


  • Neath, Neath Port Talbot, United Kingdom Network Rail Full time

    Disgrifiad Cryno Byddwch yn gyfrifol am reoli a chyfarwyddo'r Tîm Cymorth Technegol a'r Technegwyr yn y Ganolfan Reoli i ddarparu cymorth cynhyrchu, perfformiad, sicrwydd, technegol, dadansoddol ac ansawdd data i'r tîm Peirianneg Cynnal a Chadw. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Peiriannydd Cynnal a Chadw Signalau a Thelathrebu i gyflawni...