Gweithiwr Hostel

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Dyma swydd yng Ngwasanaeth Datrysiadau Tai y Cyngor wedi'i lleoli yn Hostel Tŷ Iolo, y Barri, lle sy’n dangos empathi a thosturi i bobl sydd wedi dod yn ddigartref ac sy’n aros am gartref parhaol.
Mae Hostel Tŷ Iolo yn adnodd llety dros dro 24 awr gyda 21 ystafell lety a chegin a lolfa gyffredin ar gyfer ystod o bobl o unigolion i deuluoedd â phlant.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion cyflog: Gradd 4, PCG 5-7, £21,575-£ 22,369 gan gynnwys tâl shifft uwch

Oriau o Waith / Patrwm Gwaith: patrwm sy’n cynnwys nosweithiau, penwythnosau a thros nos
Prif Weithle: Hostel Tŷ Iolo, y Barri
Rheswm Gwneud y Swydd yn un Dros Dro: ddim yn berthnasol - rôl barhaol

Disgrifiad:

- Cadw cofnod o gamau a gymerwyd mewn perthynas â phob digwyddiad/mater rheoli’r hostel ac adrodd am ddigwyddiadau o’r fath i’r Rheolwr Llety Dros Dro.
- Croesawu preswylwyr newydd i'r Hostel a chwblhau'r holl gofnodion angenrheidiol gan gynnwys cytundeb trwydded, ffurflenni Budd-dal Tai, Cefnogi Pobl, ffurflenni Atgyfeirio, Ceisiadau Digartrefedd a Cheisiadau Cofrestr Tai yn unol â rhwymedigaethau statudol a pholisïau mabwysiedig y Cyngor.
- Cymryd rhan yn llawn yn Rota’r Hostel i gynnal diogelwch digonol a rheolaeth briodol yn unol â rhwymedigaethau statudol a pholisïau mabwysiedig y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo i gydlynu trefniadau cysgu dros nos/penwythnos/gyda'r nos, dernum pobl y tu allan i oriau, a gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol gyda'r cwmni diogelwch nos.

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o weithio mewn Hostel
- Profiad o weithio gyda chleientiaid sy’n agored iawn i niwed
- Profiad o weithio gyda’r cyhoedd
- Profiad o systemau swyddfa a chadw cofnodion
- Profiad o weithio ar sail rota

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: Oes - Uwch
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Ian Jones

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00426