Rheolwr Projectau RHanbarthol

2 weeks ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Tîm Dewis Cymru yn gweithio ledled rhanbarth Caerdydd a’r Fro i ddatblygu a chyflawni rhaglen ranbarthol o newid cydweithredol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cydymffurfio â ac yn bodloni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a darnau allweddol eraill o ddeddfwriaeth gyda’n partneriaethau cysylltiedig, gan felly gyflawni canlyniadau gwell i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a gwella effeithlonrwydd ar draws y rhanbarth.

**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 7, PCG 20-25, £28,371 - £32,020 pro rata

Oriau Gwaith: 12 oriau

Rheswm am Swydd Dros Dro: Mae’r penodiad dros dro tan 31 Gorffennaf 2024 yn yr achos cyntaf, ac yna’n amodol ar barhad cyllid.

Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Gwener (y gwir ddiwrnodau i’w penderfynu wrth benodi)

Prif Fan Gwaith: Cyd-leolir yn Diminions Way Caerdydd, Swyddfa Dociau’r Barri, y Barri a gweithio gartref

Cefnogi gwaith rhanbarthol ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Hyrwyddo, datblygu, cynnal a gwella cynaliadwyedd cyfeirlyfr adnoddau Dewis Cymru, fel y lle i fynd i'r cyhoedd, staff a sefydliadau yng Nghaerdydd a’r Fro sydd am gael gwybodaeth neu gyngor i gefnogi lles a dysgu am bobl, sefydliadau lleol a gwasanaethau a all helpu.

**Amdanat ti**

Bydd angen:

- Brwdfrydedd dros ragoriaeth, arloesi ac ymrwymiad i welliant parhaus.
- Profiad amlwg o weithio mewn gofal cymdeithasol neu sefydliad tebyg.
- Profiad o ddatblygu prosiectau a busnes.
- Profiad o reoli llinell a goruchwylio.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a lefel uchel o sgiliau rhyngbersonol.
- Yr hyder i hyrwyddo a chyflwyno hyfforddiant, arddangosiadau a sesiynau holi ac ateb i staff neu grwpiau lleol.
- Sgiliau cyfrifiadurol rhagorol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o ran darparu cyfeirlyfr adnoddau rhanbarthol.
- Safon dda o addysg.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad DBS: Dim

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: SS00636