Cydlynydd Iechyd a Diogelwch/ystadau
2 weeks ago
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.
Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw - ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud. Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.
Anogir pobl o gefndiroedd amrywiol i wneud cais am swyddi gwag gyda Gyrfa Cymru
**Cydlynydd Iechyd a Diogelwch/Ystadau (Gorllewin Cymru)**
Cyflog: £17,185 - £20,699 pro-rata to £28,641 - £34,498
**Lleoliad: i’w benderfynu ar benodiad**
**Oriau Gwaith: 0.6 CALl / 22.2 awr**
**Dyddiad Cau: Hanner nôs 8fed o Fai 2024**
**Amlinelliad o'r swydd**:
Mae gan y Cydlynydd Iechyd a Diogelwch/Ystadau rôl allweddol i gyflawni a gwella swyddogaeth Iechyd a Diogelwch/Ystadau ar draws y cwmni. Mae hyn yn cynnwys:
- Cydgysylltu trefniadau iechyd a diogelwch a chyfleusterau o ddydd i ddydd.
- Monitro, dadansoddi ac adrodd ar gyflawniadau nodau ac amcanion y cwmnïau mewn modd amserol a chywir o fewn gofynion cytundebol, arfer gorau, statudol a rheoliadol.
- Cyfrannu at ddatblygu polisi Iechyd a Diogelwch/Ystadau a mentrau cenedlaethol.
- Teithio ar draws ein holl safleoedd yng Ngorllewin Cymru.
Er mwyn bod yn addas ar gyfer y swydd hon, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y cymwysterau a'r profiad perthnasol canlynol:
- Profiad perthnasol fel ymarferydd Iechyd a Diogelwch.
- Tystysgrif Gyffredinol NEBOSH o leiaf neu'n gweithio tuag at hyn.
Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle - gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth sicrhewch eich bod yn darllen y fanyleb swydd lawn:
Dylid cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau erbyn hanner nôs **08/05/24.**
**Cyfweliadau / asesiadau i’u cynnal ar** 16/05/24.**
Ewch i **Safle Recriwtio Gyrfa Cymru** am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.
Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV.
Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.