Swyddog Gwasanaethau Democrataidd

2 weeks ago


Pembroke Dock, United Kingdom Pembrokeshire Coast National Park Authority Full time

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd
Llawn amser/ Parhaol

Rydym yn chwilio am Swyddog Gwasanaethau Democrataidd fydd yn sicrhau bod y Gwasanaethau Democrataidd a Llywodraethu Gwybodaeth yn cael eu cynnal a'u gweithredu yn effeithiol fel bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

**Byddwch**:

- yn gwasanaethu rhai pwyllgorau, grwpiau a chyfarfodydd eraill (yn ôl yr angen), gan sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymffurfio â deddfwriaeth y Llywodraeth, y Rheolau Sefydlog ac arferion da.
- yn cydlynu’r gwaith o baratoi, cyhoeddi, dosbarthu ac Adneuo agendâu yn Gyhoeddus er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth y Llywodraeth, y Rheolau Sefydlog ac arferion da.
- yn bwynt cyswllt cyntaf, a rhoi cymorth ysgrifenyddol/gweinyddol, i’r Uwch Arweinwyr, gan gynnwys y Prif Weithredwr a’r Swyddog Monitro.
- yn cyflenwi yn absenoldeb staff y dderbynfa a staff eraill yn yr Adran Pobl pan fo angen.

**Bydd angen y canlynol arnoch**:

- sgiliau iaith ysgrifenedig da.
- bod yn ddefnyddiwr TG effeithiol, yn brofiadol mewn defnyddio Word, Excel ac Access.
- bod yn gyfathrebwr effeithiol ar draws pob lefel o gysylltu â phobl, a'r gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol a gweithio'n dda mewn tîm.
- bod yn hyderus gyda phobl.
- profiad ysgrifenyddol/gweinyddol, gan gynnwys delio ag uwch aelodau o’r staff a materion corfforaethol.

Disgrifiad swydd llawn ar gael i'w lawrlwytho.

Cyflog o hyd at £26,845 yn dibynnu ar brofiad. 26 diwrnod o wyliau yn codi i 31 yn ogystal â gwyliau cyhoeddus, cynllun pensiwn hael llywodraeth leol, trefniadau gweithio hyblyg ardderchog a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil.
Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu ac felly'n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl, sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd ac yn dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd.

**Dyddiad Cau**: 04/04/2023

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn neilltuo’r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar.