Tiwtor/aseswr Gwaith Brics
2 weeks ago
**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y r**ô**l**:
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Diwtor/Aseswr cymwysedig a phrofiadol i ymuno â’r ddarpariaeth Gwaith Brics yn ein Maes Dysgu’r Amgylchedd Adeiledig sy'n ehangu.
- ** Amser-Llawn (37 awr yr wythnos)**:
- ** Parhaol**:
- ** £28,351 - £31,202 y flwyddyn**:
- ** Llys Jiwbilî**
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Gan addysgu ac asesu dysgwyr mewn Gwaith Brics, byddwch yn asesu ac yn dilysu portffolios yn fewnol i sicrhau eu bod yn ateb gofynion y gwahanol wirwyr allanol a chyrff dyfarnu.
- Byddwch hefyd yn gweithio gyda chwsmeriaid ym myd diwydiant i gynnal a meithrin cysylltiadau.
- Mae agwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i ddarparu profiad dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr.
**Amdanoch chi**:
- Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant gyda chymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn Gwaith Brics neu bwnc cysylltiedig.
- Bydd gennych brentisiaeth gydnabyddedig mewn Gwaith Brics.
- Ac yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig, neu yn gweithio tuag ato, a dyfarniad TAQA/V1.
- Bydd gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg, ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm.
**Buddion**:
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
- Disgownt ar gyfer aelodaeth Campfa Chwaraeon - £60 y flwyddyn
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).
-
Tiwtor Aseswr Gwaith Brics
6 days ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...
-
Tiwtor/aseswr Interniaethau â Chymorth
4 weeks ago

Gweinyddwr Cydymffurfiaeth