Cymraeg RHugl

2 weeks ago


Gwynedd, United Kingdom SuperTemps Full time

Mae gennym gyfle ar gyfer nifer o bobl i weithio fel Ymchwilwyr Ffôn i ymuno ag ymgynghoriaeth ymchwil cymdeithasol annibynnol gyda phrosiect newydd a chyffrous. Mae ein cleient yn gweithio gyda nifer o sefydliadau ar draws Cymru, gan gynnwys y llywodraeth, y sector gyhoeddus, elusennau a’r trydydd sector.
- Os oes ydych yn gyfeillgar a hyderus ar y ffôn, ac yn mwynhau siarad â phobl yna gallai hwn fod yn gyfle perffaith i chi

Fel Cyfwelydd Ffôn, byddech yn:

- Darparu gwasanaeth cwsmer ardderchog
- Casglu adborth a mewnwelediadau gan ddefnyddwyr gwasanaethau
- Cysylltu â’r cyhoedd er mwyn helpu i ni ddeall ffyrdd y gall gwasanaethau cyhoeddus cael eu gwella ar gyfer pobl Cymru
- Rhoi adborth ar wasanaethau cyhoeddus

Rydym yn awyddus i glywed gennych ac i weld eich CV, os oes gennych y profiad a sgiliau canlynol:

- Sgiliau gwasanaeth cwsmer a sgiliau gwrando da
- Cwrteisi a hyder ar y ffôn
- Y gallu i gynnal a deall sgwrs rhugl yn y Gymraeg
- Trefnus ac â llygad craff am fanylion
- Yn frwdfrydig ac yn angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru
- Yn gallu gweithio yn yr hwyr

Swydd gweithio o bell am gyfnod dros dro yw hon, gyda chyflog o £12.90 yr awr ynghyd â thâl gwyliau. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda’r hwyr, am oddeutu 25-35 awr yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, am 5 i 6 wythnos. Bydd angen eich offer eich hun, cysylltiad band eang da, Windows 10 (uchafswm o 2 flwydd oed), prosesydd i3 neu AMD Silver neu AMD Gold, gydag o leiaf 4gb RAM, disg caled o leiafswm o 250gb gyda phorthladd ethernet, a CPU yn fwy na 2ghz.

Os yw hyn oll yn swnio fel y swydd i chi, gwnewch gais heddiw
- (This is an advert for a Telephone Interviewer for which the ability to converse through the medium of Welsh and English is essential.)_