Dirprwy Meithrinfa

1 month ago


Llandudno Junction, United Kingdom Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg Full time

Mae Meithrinfa Gymraeg Derwen Deg, Cyffordd Llandudno yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, egniol a chreadigol sydd yn gallu cyfathrebu trwy’r Gymraeg, i ymuno â’n tîm cyfeillgar. Rydym yn chwilio am ddirprwy ymroddgar, cydwybodol, brwdfrydig a chyfeillgar i arwain pob agwedd o waith y feithrinfa.

**Cymhwysterau**: Gofynnir am gymhwyster blynyddoedd cynnar cydnabyddedig addas ar Lefel 3 neu uwch ynghyd â phrofiad perthnasol i gymryd gofal o’r feithrinfa wrth gyd-weithio ar rheolwr.

**Oriau : Dydd Llun i Ddydd Gwener 37.5 awr yr wythnos**

**Dyletswyddau**:

- Sicrhau fod naws ac awyrgylch Cymraeg a Chymreig yn digwydd yn y feithrinfa pob amser
- Arwain drwy esiampl
- Cyd-reoli staff gyda’r rheolwr gan sicrhau fod safonnau uchel yn cael eu dilyn
- Rheoli tîm o oddeutu 10
- Cydweithio gyda arweinyddion a chymorthyddion yn yr ystafelloedd
- Camu mewn i’r ystafelloedd i gyflenwi yn ystod absenoldebau staff
- Gwaith swyddfa
- Cynorthwyo a bod yn hyblyg i weithio oriau/dyddiau ychwanegol pan mae’r angen yn codi
- Cydweithio gyda asiantaethau allannol e.e CIW, Iechyd yr amgylchedd, asiantaethau diogelwch bwyd ayyb
- Bod yr unigolyn gyda chyfrifoldeb am safon y gofal sydd yn cael ei ddarparu yn absenoldeb y rheolwr.
- Mentora staff gan gefnogi rhai sydd yn hyfforddi
- Gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni

**Nid yw’r swydd ddisgrifiad hwn yn restr gyflawn o ddyletswyddau’r swydd. Mae’r feithrinfa yn cadw’r hawl, yn dilyn ymgynghori’n briodol gyda chi, i amrywio eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau yn unol a’ch graddfa cyflog a’ch gallu galwedigaethol er mwyn ymateb i newidiadau yn anghenion y gwasanaeth.**

**Job Types**: Full-time, Permanent

**Salary**: £26,873.00 per year

**Benefits**:

- Childcare
- Company pension
- Sick pay

Schedule:

- Monday to Friday
- No weekends

Ability to commute/relocate:

- Llandudno Junction: reliably commute or plan to relocate before starting work (required)

Application question(s):

- Cymhwyster cydnabyddedig mewn gofal plant lefel 3 neu uwch

**Language**:

- Welsh (required)

Work Location: In person

Reference ID: Dirprwy Meithrinfa