Pridiannau Tir
3 weeks ago
**Amdanom ni**
Mae’r rôl yn rhan o Dîm y Gwasanaethau Craffu a Democrataidd. Mae’r tîm yn gyfrifol am ddatblygu a chefnogi prosesau penderfynu effeithiol a llywodraethu da mewn perthynas â swyddogaethau Pwyllgorau, Craffu a’r Cabinet. Mae’r tîm
hefyd yn rhoi cyngor a chymorth i Aelodau etholedig.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8-12, £22,777 - £24,496
Oriau Gwaith: 37 oriau
Patrwm Gweithio: dydd Llun - Dydd Gwener
Prif Weithle: Barri
**Disgrifiad**:
Mae’r rôl yn cynnwys y ddarpariaeth o wasanaeth statudol Pridiannau Tir y Cyngor, y swyddogaeth Rheoli Cofnodion a’r ddarpariaeth o gefnogaeth glerigol / gweinyddol yn gorfforaethol ac i Aelodau Etholedig.
**Amdanat ti**
- Y gallu i flaenoriaethu gwaith heb lawer o oruchwyliaeth, bod yn gywir, talu sylw i fanylion a bodloni terfynau amser tynn.
- Y gallu i wneud penderfyniadau a rhoi cyngor ar weithdrefnau gweinyddol perthnasol.
- Sgiliau cyfathrebu da yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod o dîm.
- Profiad o ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office gan gynnwys Word ac Excel.
- Gwybodaeth am gyfrifoldebau'r Cyngor a'r adran.
- Y gallu i ddelio â gwybodaeth sensitif/personol yn gyfrinachol.
- Wedi'i addysgu i lefel TGAU neu gyfwerth gydag o leiaf 2 flynedd o brofiad gweinyddol
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Nac oes
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: RES00309