Gweinyddwyr Cyllid

5 months ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Cyflog** Cyflog**:£21,197 - £23,144 y flwyddyn (pro rata i weithwyr rhan-amser), yn ogystal â buddion pensiwn NEST

**Lleoliad**:Campws Parc Singleton a Champws y Bae.

**Contract**: Penodol tan 08/09/2023

**Prif ddiben y swydd**

Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau ariannol a gweinyddol i staff a rhanddeiliaid y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg er mwyn sicrhau gweithrediadau ariannol a gweinyddol effeithiol, effeithlon a chywir. Mae'r swydd yn cynnwys sicrhau'r gwaith o ddelio â cheisiadau prynu yn brydlon ac yn effeithiol, gan roi cyngor ar reolau a rheoliadau'r Brifysgol a phrosesau ariannol mewnol a chadw cofnodion priodol. Wrth symud ymlaen disgwylir y bydd deiliad y swydd yn bodloni Dangosyddion Perfformiad Allweddol ariannol allweddol gan ymateb yn briodol i adborth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i addysgu i lefel TGAU gydag C neu'n uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu brofiad gwaith cyfatebol), profiad o ddefnyddio pecynnau Microsoft gan gynnwys Excel a'r gallu i weithio fel rhan o dîm a mewnbynnu ac alldynnu data'n gywir.

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio.

Sylwer bod y swydd hon hefyd yn cael ei hysbysebu i gronfa o gydweithwyr mewnol fel rhan o ymrwymiad y Brifysgol i gyflogi pobl drwy adleoli. Os caiff y swydd hon ei llenwi drwy'r llwybr hwn, byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau hyn. Os nad ydych yn derbyn e-bost, dylech dybio bod eich cais yn dal i gael ei brosesu.

Job Reference: AC05869