Datblygwr Gwe Pen-blaen

5 months ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Cyflog** Cyflog**:£32,411 - £36,333 y flwyddyn
**Lleoliad**: Campws Singleton

**Prif ddiben y swydd**
Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.

Bydd y rôl yn eistedd o fewn tîm sydd wedi ehangu'n ddiweddar, ac sydd wedi ennill gwobrau. Mae gwella presenoldeb y we yn barhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau uchelgais "30 Uchaf", ac mae rôl Datblygwr Gwe Pen-Blaen yn hanfodol i'r nod hwn.

Bydd y Datblygwr Gwe Pen-Blaen yn aelod allweddol o Dîm y We a Marchnata Digidol, gan weithio i greu atebion hygyrch, gwe-benodol sy’n cyrraedd gofynion anghenion pob aelod o'n cymuned o ddefnyddwyr.

Byddwch yn gyfrifol am wneud y mwyaf o foddhad cwsmeriaid drwy gyflawni a chynnal profiadau cwsmeriaid digidol o'r radd flaenaf yn seiliedig ar ymchwil a mewnwelediad.

Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar o leiaf 2 flynedd o brofiad yn y diwydiant, a phrofiad profedig mewn cysyniadu a datblygu datrysiadau gwe creadigol. Byddwch yn gweithio gydag athroniaeth symudol-gyntaf, a sicrhau bod yr holl waith yn cynnal safonau Hygyrchedd WCAG AA, safonau codio W3C.

Profiad profedig gydag ieithoedd gwe fel HTML, SCSS a JavaScript. (Mae profiad gyda jQuery, PHP gwrthrych-gyfeiriadol _[object orientated PHP_] a ieithoedd templed megis Twig yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol). Byddai bod yn gyfarwydd â fframweithiau fel Bootstrap neu debyg hefyd yn fanteisiol.

Bydd dyluniadau rhyngwyneb defnyddiwr yn cael eu darparu gan yr Uwch Ddylunydd Profiad Defnyddiwr, felly bydd gwerthfawrogiad o batrymau, arferion a safonau dylunio Profiad y Defnyddiwr (UX) o ddefnydd.

Byddem yn croesawu profiad o ganfod diffygion a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol a chefnogi amrywiaeth eang o gyd-weithwyr.

**Manylion cyswllt ymholiadau anffurfiol & gwybodaeth bellach**

Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal rhwng: 27/07 - 01/08

Rydym yn cynnig polisi gweithio hyblyg sy’n gallu cynnwys gweithio hybrid. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod unrhyw beth.

Job Reference: SD03126