Carthffosydd
2 weeks ago
**Amdanom ni**
I glirio blociadau yn y garthffos a chynnig gwasanaeth cynnal a chadw effeithiol i denantiaid tai a chwsmeriaid mewnol
**Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog**:Grade 3 £21,189 pa
**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:Dydd Llun i ddydd Gwener.
**Amser tymor** 37awr/wythnos
**Prif Waith**:Yr Alpau
**Disgrifiad**:
- Cynnig gwasanaeth glanhau a chynnal draeniau effeithiol i eiddo a charthffosydd y cyngor
- Cynorthwyo neu gyflawni swyddogaethau eraill yn y grŵp glanhau a diogelu’r adeilad h.y. cyflenwi swyddogaethau gwasanaethau symudol, helpu â symud swyddfeydd a dyletswyddau llafurio sylfaenol.
- Darparu presenoldeb ar y safle i gloi a gosod larymau mewn amryw ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled y Fro.
- Sicrhau y cydymffurfir â Rheoliadau Ariannol, Rheolau Sefydlog, Polisïau a Gweithdrefnau’r Cyngor
- Rhoi egwyddorion Polisi Cyfle Cyfartal y Cyngor ar waith wrth gyflawni'r dyletswyddau uchod
- Cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch/gweithdrefnau a pholisïau perthnasol y Cyngor a gofalu’n rhesymol am eich iechyd a’ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch eraill y gallai eich gweithrediadau/esgeulustod effeithio’n negyddol arnynt.
- Rhoi egwyddorion Polisi Amgylcheddol y Cyngor ar waith wrth gyflawni’r dyletswyddau uchod.
- Adrodd wrth y swyddog diogelu am unrhyw bryderon heb oedi.
- Unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n gymesur â’r radd ac yn unol â nodweddion cyffredinol y swydd fel y gellid yn rhesymol eu disgwyl gan y Prif Swyddog o dro i dro.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Sgiliau llafar sylfaenol a gallu trafod yn dda ag aelodau’r cyhoedd a swyddogion cleient.
- Gallu cyflawni dyletswyddau codi a chario a llafurio’n gorfforol.
- Profiad blaenorol o glirio draenio a chynnal a chadw systemau carthffosiaeth.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Cadarnhaol a hunan-gymhellol gyda’r gallu i fod yn hyblyg ac ymatebol i newidiadau mewn blaenoriaethau a galw.
- Rhaid gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a chyflawni dyletswyddau’n effeithiol.
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel sy'n berthnasol.
- Parod i weithio oriau afreolaidd.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: N/A
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Steve Ackerman 07989 446726
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.
Job Reference: EHS00395