Cynorthwy-ydd Gweithredol

3 days ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**Amdanom ni**:
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

**Y rôl**:
Eisiau datblygu eich gyrfa weinyddol mewn amgylchedd deinamig? Ymunwch â'n Tîm Cymorth Gweithredol fel Cynorthwyydd Gweithredol

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad blaenorol sylweddol o weithio fel Cynorthwyydd Gweithredol ac sy'n gallu dod â'u gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i'r tîm.

Mae’r Tîm Cymorth Gweithredol yn darparu cymorth hynod effeithlon, proffesiynol a chyfrinachol ar draws ystod o ddyletswyddau gweinyddol i dîm Gweithredol y Coleg sy’n cynnwys: Swyddfa’r Prif Weithredwr, Pennaeth ac Is-benaethiaid. Mae'r tîm yn symud yn gyflym ac yn ymdrechu'n gyson i wella ac mae'n ceisio cyflawni ein dyhead o ragoriaeth ym mhopeth a wnawn trwy ymagwedd gefnogol a chynhwysol.
- ** Llawn Amser (37 awr y wythnos)**:

- ** Parhaol**:

- ** £30,200 - £32,245 y flywddyn**:

- ** Hill House campws**

**Cyfrifoldebau Allweddol**:

- Cefnogi aelod o'r Tîm Gweithredol i'w helpu i flaenoriaethu a gweithio'n effeithlon trwy reoli eu dyddiadur a'u mewnflwch
- Darparu gwasanaeth gweinyddol cyffredinol
- Yn gyfrifol am bortffolio o gyfarfodydd - gosod agenda, cymryd cofnodion, a sicrhau bod camau gweithredu dilynol yn cael eu cyflawni a'u holrhain yn unol â hynny

**Amdanoch chi**:

- 5 TGAU (gradd A - C) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg neu gyfwerth
- Sgiliau trefnu a blaenoriaethu rhagorol a byddwch yn ddiplomyddol
- Sgiliau cyfathrebu datblygedig iawn a'r gallu i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid
- Meddu ar y cymhelliant a'r dewrder i ddatrys problemau
- Y gallu i barchu cyfrinachedd bob amser

**Buddion**:

- 28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
- 2 ddiwrnod lles i staff
- Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg

**Angen cymorth gyda’ch cais? **Cliciwch ein tudalen canllaw.**
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad._

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. _

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).