Cydlynydd Cyfleusterau
5 months ago
**Amdanom ni**
Mae’r swyddogaeth reoli cyfleusterau yn cynnwys gweithio mewn prif swyddfeydd a depos y Cyngor ac eiddo corfforaethol o bryd i'w gilydd yn ôl yr angen. Bydd y Cydlynydd Cyfleusterau yn rhoi cymorth i’r Rheolwr Cyfleusterau yn y gwaith o gyflawni'r swyddogaeth reoli cyfleusterau.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Graddfa 7 PCG 20-25, £30,296 - £33,945
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: Llawn amser - dydd Llun - dydd Gwener
Prif Weithle: Swyddfeydd Dinesig a lleoliadau eraill fel sy'n ofynnol gan y gwasanaeth
**Disgrifiad**:
Fel y Cydlynydd Cyfleusterau, eich gwaith chi fydd gweithio fel rhan o'r Tîm Cyfleusterau, ac ochr yn ochr â'r Rheolwr Cyfleusterau, byddwch yn darparu gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau ar gyfer y staff sy'n meddiannu'r prif adeiladau corfforaethol. Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob cais a byddwch yn hwyluso contractwyr i gwblhau gwaith cynnal a chadw cylchol, cynlluniedig ac adweithiol.
Bydd y cydgysylltydd yn sicrhau bod arferion contractwyr yn ddiogel ac yn adolygu asesiadau risg a datganiadau dull gan sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn ddiogel. Gan weithio'n agos gyda'r Swyddogion Safleoedd, Cydweithwyr Diogelwch, Cydymffurfio a Glanhau yn y Swyddfeydd Dinesig a’r Dociau, a depo'r Alpau, byddwch yn cydlynu'r holl faterion sy'n gysylltiedig â gweithredu'r adeiladau'n ddiogel ac yn effeithiol.
Bydd y Cydlynydd Cyfleusterau hefyd yn sicrhau bod anfonebau'n cael eu codi a'u talu mewn modd amserol a bod cyllidebau'n parhau i gael eu rheoli'n rhagweithiol.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Deall TG gyda phrofiad o ddefnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft Office.
- Profiad o ddiwylliannau cyfleusterau, eiddo ac adeiladu.
- Profiad o weithio gyda thimau gwasanaeth uniongyrchol ac allanol.
- Gwybodaeth am reoli cyllideb.
- Gwybodaeth o faterion Iechyd a Diogelwch ac adeiladu sy'n gysylltiedig ag adeilad newydd a phrojectau adnewyddu (h.y. materion cyfredol yn ymwneud ag adeiladu).
- Gwybodaeth am reoli contractau.
- Y gallu i weithio dan eich goruchwyliaeth eich hun i fodloni dyddiadau cau.
- Y gallu i reoli / blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun mewn amgylchedd aml-dasgau.
- Y gallu i ddylanwadu ar eraill er mwyn cyflawni canlyniadau a ddymunir mewn modd proffesiynol.
- Sgiliau trefnu, llafar ac ysgrifenedig da, gan gynnwys y gallu i lunio adroddiadau o ansawdd.
- Addysg hyd at Safon Uwch neu gyfatebol
- Parodrwydd i ymgymryd â Diploma Lefel 3 & 4 y Sefydliad Rheoli Cyfleusterau a’r Gweithle (IWFM) trwy raglen Dysgu o Bell neu Ddysgu Cyfunol
- Cadarnhaol ac â hunan-gymhelliant
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser
- Gallu gyrru/teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo'n briodol.
- Hyblyg o ran gweithio rhwng safleoedd.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Nac oes
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Gareth Brown 07858682005
Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: RES00395