Cogydd Arweiniol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes.
**Am Y Swydd**
Bydd y Cogydd Arweiniol yn gyfrifol am reoli'r holl agweddau ar y gweithgareddau busnes a gwasanaeth. Bydd yn hyblyg ac yn gallu addasu i fodloni anghenion y gwasanaeth.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Yn hyblyg ac yn gallu addasu i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.

Canolbwyntio ar gwsmeriaid, gan sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.

Gallu gweithio’n agos gyda’ch cydweithwyr fel rhan o dîm neu o’ch pen a’ch pastwn eich hun.

Yn agored i newid a ffyrdd gwahanol o weithio.

Yn gefnogol i’ch cydweithwyr, ac agwedd gadarnhaol at sicrhau gwasanaeth o’r radd flaenaf.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn. Mae’r cyflog a ddangosir, fodd bynnag, am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, felly caiff ei dalu ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Job Reference: EDU00539


  • Cogydd Arweiniol

    8 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo digwyddiad ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Ysgol...

  • Cogydd Arweiniol

    1 day ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Ynglŷn...

  • Cogydd Arweiniol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Gan...

  • Cogydd Arweiniol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion Uwchradd, Cynradd ac Arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes. **Am Y Swydd** Wedi...