Current jobs related to Hyfforddwr Arwain a RHeoli - Swansea - Gower College Swansea


  • Swansea, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    Eich gwaith - Gweithio yn ein mannau bwyd a diod, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y mannau bwyd a diod yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a...

  • Senior Volunteering

    3 months ago


    Swansea, United Kingdom National Trust Full time

    We're looking for a Senior Volunteering & Community Officer to join the team at our Gower and Aberdulais properties. If you have experience in working with communities, enjoy creating exciting partnerships with groups of people interested in becoming more involved in their local countryside and volunteer management then we'd like to hear from...


  • Swansea, United Kingdom Freedom Leisure Full time

    Do you want to make a difference within your local community, supporting people to improve their lives through leisure? If you feel driven to inspire people to be more active, improve their wellbeing and would like a job that will make a real different to local people’s lives then Freedom Leisure is the place for you! We are a not-for-profit leisure...


  • Swansea, United Kingdom NPTC Group of Colleges Full time

    Mae gennym uchelgeisiau mawr i fod yn ddarparwr addysg sy’n arwain y sector a hoffem i chi chwarae rhan yn hyn. Os ydych chi'n angerddol dros Addysg ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, daliwch ati i ddarllen. Dim cymhwyster addysgu? Dim problem - efallai y gellir darparu hyfforddiant! Band A. Oriau dysgu blynyddol: 699.6 - 835 (gan gynnwys ambell...

  • Studio Instructor

    2 months ago


    Swansea, United Kingdom WEALDEN LEISURE LIMITED Full time

    Do you want to make a difference within your local community, supporting people to improve their lives through leisure?If you feel driven to inspire people to be more active, improve their wellbeing and would like a job that will make a real different to local people's lives then Freedom Leisure is the place for you!We are a not-for-profit leisure trust with...

  • Yoga Instructor

    2 months ago


    Swansea, United Kingdom WEALDEN LEISURE LIMITED Full time

    Do you want to make a difference within your local community, supporting people to improve their lives through leisure?If you feel driven to inspire people to be more active, improve their wellbeing and would like a job that will make a real different to local people's lives then Freedom Leisure is the place for you!We are a not-for-profit leisure trust with...

Hyfforddwr Arwain a RHeoli

5 months ago


Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

**10 awr yr wythnos**
**£8,512 - £9,903 per annum**

Dyma gyfle cyffrous i hyfforddwr Arwain a Rheoli cymwys ymuno â’n tîm llwyddiannus a phroffesiynol sy’n gweithredu o fewn Hyfforddiant CGA, cangen fasnachol y Coleg.

Byddwch yn gweithio yn yr adran Busnes, Sgiliau ac Arloesi, a bydd gofyn ichi farchnata, recriwtio, addysgu, asesu a chefnogi dysgwyr o fewn y sector. Gall rhaglenni gynnwys dysgu seiliedig ar waith, NVQ, prosiectau a ariennir gan Ewrop a rhaglenni a gweithdai pwrpasol.

Bydd gennych ymagwedd broffesiynol, dealltwriaeth gyfredol o’r fframwaith perthnasol a’r gallu i gyflwyno’r holl gymwysterau ar bob lefel sy’n berthnasol i’r fframwaith prentisiaethau. Yn ddelfrydol, byddwch yn gyfarwydd â gofynion gweinyddol rhaglenni prentisiaeth.

Byddwch yn gweithio â chyflogwyr allanol a rheolwyr o fewn y Coleg i nodi a hwyluso datrysiadau hyfforddiant, er mwyn diwallu anghenion y sefydliad a chynorthwyo Dilyswyr i sicrhau bod holl ofynion Dilyswyr allanol a’r corff dyfarnu yn cael eu bodloni.

Bydd gennych Gymhwyster Lefel 5 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth mewn maes perthnasol, dyfarniad A1 Asesu/V1 Dilysu Mewnol (TAQA), neu byddwch yn barod i weithio tuag at y cymwysterau hyn. Mae lefel 2 (Gradd A-C) mewn Mathemateg a Saesneg, ynghyd ag ymrwymiad i ymgymryd â chymhwyster paratoi i addysgu (PTTLS) yn hanfodol.

Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ar lafar ac yn ysgrifenedig, sgiliau TGCh da a’r gallu galwedigaethol i asesu hyd at Lefel 7 ac ysbrydoli a throsglwyddo eich gwybodaeth i’r dysgwyr. Yn ogystal, bydd gennych lygad wych am fanylder, awch i gwblhau targedau a ffocws ar ansawdd.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar._

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).