Hyfforddai Digidol

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r gwasanaeth cynghori i mewn i waith. Mae'r gwasanaeth cynghori i mewn i waith yn cefnogi unigolion sy'n chwilio am waith neu i uwchsgilio. Mae'r tîm wedi'i wasgaru ar draws y ddinas gan gefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth cyflogaeth personol un i un.

**Am Y Swydd**
Bydd y swydd hon yn gweithio o fewn ein Tîm Ymgysylltu Digidol, gan ddarparu cymorth digidol wedi'i dargedu a chyfleoedd mynediad ar draws lleoliadau a hybiau cymunedol yng Nghaerdydd yn ogystal ag ar-lein/ dros y ffôn.

Bydd y Prosiect yn ceisio lleihau cyfraddau allgáu digidol yng Nghaerdydd, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu sgiliau digidol, mynediad i ddyfeisiau digidol a chymorth digidol cyffredinol.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos sgiliau digidol ac sy'n gymwys gydag ystod o dechnolegau, meddalwedd a systemau er mwyn cynorthwyo'r rhai sydd angen cymorth digidol yn effeithiol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio wyneb yn wyneb gyda chwsmeriaid a byddwch yn ymrwymedig i roi gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel. Bydd gennych gyfathrebu da, sgiliau TG rhagorol, a'r gallu i gefnogi cwsmeriaid hyd eithaf eich gallu. Byddwch yn hyblyg ac yn gallu gweithio o amrywiaeth o leoliadau ar draws y ddinas. Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, ac ieithoedd Cymunedol, o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae'r swyddi hyn yn amodol ar wiriadau DBS.

Swydd dros dro yw hon tan 31/03/2024.

Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Prif Swyddog neu'r Uwch Swyddog enwebedig perthnasol, sydd ar radd nad yw’n is na RhG2, a all gymeradwyo ceisiadau, neu yn achos staff ysgolion, y Pennaeth neu'r Corff Llywodraethu.Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03724



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr), neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn darparu cefnogaeth i bobl ledled y ddinas sy'n mynd ati i chwilio am waith neu'n edrych i uwchsgilio. Mae'r tîm yn cynorthwyo dinasyddion ledled Caerdydd i gael eu Cynnwys yn Ddigidol, helpu i greu CVau, cynorthwyo gyda cheisiadau am Swyddi a darparu cefnogaeth i wneud cais am gyfrifon Credyd...