Tiwtor/aseswr Gwaith Brics

2 weeks ago

Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

Oes gennych chi brofiad neu hoffech chi ddechrau gyrfa fel tiwtor aseswr mewn gwaith brics? Os felly, mae cyfle cyffrous i chi yng Ngholeg Gwyr Abertawe.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Diwtor/Aseswr cymwysedig a phrofiadol i ymuno â’r ddarpariaeth Gwaith Brics yn ein Maes Dysgu’r Amgylchedd Adeiledig sy'n ehangu.

Gan addysgu ac asesu dysgwyr mewn Gwaith Brics, byddwch yn asesu ac yn dilysu portffolios yn fewnol i sicrhau eu bod yn ateb gofynion y gwahanol wirwyr allanol a chyrff dyfarnu. Byddwch hefyd yn gweithio gyda chwsmeriaid ym myd diwydiant i gynnal a meithrin cysylltiadau.

Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant gyda chymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn Gwaith Brics neu bwnc cysylltiedig. Bydd gennych brentisiaeth gydnabyddedig mewn Gwaith Brics ac yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster addysgu cydnabyddedig, neu yn gweithio tuag ato, a dyfarniad TAQA/V1.
Mae agwedd broffesiynol a gwybodaeth gyfredol am y diwydiant yn hanfodol, ynghyd â’r gallu i ddarparu profiad dysgu ac addysgu o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Bydd gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg, ar eich menter eich hun ac fel rhan o dîm.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac mae’n disgwyl i bob aelod o staff rannu’r ymrwymiad hwn. Mae penodiadau yn amodol ar wiriad DBS manwl ac mae angen cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Mae hon yn swydd barhaol gyda phecyn buddion deniadol gan gynnwys cynllun pensiwn CPLlL a gwyliau hael.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe’n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy’n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
- Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar_

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...