Datblygwr Gwe Pen-blaen

1 week ago


Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

**Prif ddiben y swydd**
Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.

Bydd y rôl yn eistedd o fewn tîm gymharol newydd sydd wedi ehangu'n ddiweddar, ac sydd wedi ennill gwobrau. Mae gwella presenoldeb y we yn barhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau uchelgais "30 Uchaf", ac mae rôl Datblygwr Gwe Pen-Blaen yn hanfodol i'r nod hwn.

Bydd y Datblygwr Gwe Pen-Blaen yn aelod allweddol o'r Tîm y We a Marchnata Digidol, gan weithio i sicrhau bod atebion hygyrch, gwe-benodol yn cynrychioli anghenion pob aelod o'n cymuned o ddefnyddwyr.

Byddwch yn gyfrifol am wneud y mwyaf o foddhad cwsmeriaid drwy gyflawni a chynnal profiadau cwsmeriaid digidol o'r radd flaenaf yn seiliedig ar ymchwil a mewnwelediad.

Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar o leiaf 3 blynedd o brofiad, a phrofiad profedig mewn cysyniadu a datblygu datrysiadau gwe creadigol. Rhaid iddynt weithio gydag athroniaeth symudol-gyntaf, a sicrhau bod yr holl waith yn cynnal safonau Hygyrchedd WCAG AA, safonau W3C, a thechnolegau cysylltiedig.

Profiad profedig gydag ieithoedd gwe fel HTML, PHP, SCSS a JavaScript. (Yn ddelfrydol ond ddim yn hanfodol yw profiad gyda Symfony, Twig a jQuery). Byddai bod yn gyfarwydd â fframweithiau fel Bootstrap neu debyg hefyd yn fanteisiol.

Gwerthfawrogiad o batrymau, arferion a safonau dylunio Profiad y Defnyddiwr (UX) ac awydd gwirioneddol i ddefnyddio UX i ysgogi dylunio gwefannau da, gan y byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Uwch Ddylunydd Profiad Defnyddiwr.

Profiad o ganfod diffygion a chynnal/monitro ataliol mewn amgylchedd gwe menter fawr debyg, a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol a chefnogi myfyrwyr a staff yn amrywio o uwch reolwyr i israddedigion.
- Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio ar y 6ed o Fawrth
- Bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal rhwng y 13eg - 15fed o Fawrth

**Yn y cais, atodwch eich CV a hefyd darparu dolenni i o leiaf 8 gwefan yr ydych wedi arwain datblygiad arnynt.**

Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Ein nod yw creu amgylchedd cynhwysol ac rydym yn croesawu ceisiadau amrywiol gan bobl sy’n perthyn i’r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

Job Reference: SD03016



  • Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Cyflog** Cyflog**:£32,411 - £36,333 y flwyddyn **Lleoliad**: Campws Singleton **Prif ddiben y swydd** Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a...


  • Swansea, City and County of Swansea, United Kingdom Swansea University Full time

    **Prif ddiben y swydd**Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe. Rhaid i'r gweithlu hwnnw feddu ar y sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.Bydd y rôl...