Weinyddwr Cangen
4 weeks ago
Mae gan ein cleient gyfle i Weinyddwr Cangen ymuno â'r tîm
Rhif Cyfeirnod: BA3
Lleoliad: Caerdydd, CF10 3AT (Mae gweithio o swyddfa'r gangen ar sail wirfoddol ar hyn o bryd)
Cyflog: £27,018 y flwyddyn (£33,773 y flwyddyn pro rata)
Oriau: 28 yr wythnos (35 yr wythnos pro rata)
Math o Swydd: Parhaol, Rhan Amser (0.8)
Dyddiad cau: 27 Tachwedd 10.00 am
Amdanom Ni:
Mae ein cleient yn cynrychioli dros 120,000 o academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr/cyfarwyddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysg oedolion a sefydliadau hyfforddi ledled y DU. Mae gennym hefyd aelodau yn y sector preifat, er enghraifft mewn asiantaethau hyfforddi preifat ac ysgolion iaith, yn ogystal ag aelodau sy'n gweithio'n llawrydd. Mae myfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu ym maes addysg ôl-ysgol hefyd yn perthyn i UCU.
Gweinyddwr Cangen – Y Rôl:
Mae Swyddfa Cymru yn chwilio am Weinyddwr i sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn effeithiol. Yn y rôl ddiddorol hon byddwch yn cael eich gorchwylio yn lleol ar lefel cangen a Swyddog Cymru fydd eich rheolwr llinell cyffredinol.
Gweinyddwr Cangen – Cyfrifoldebau Allweddol:
- Gweithredu fel y cyswllt cyntaf i aelodau'r gangen neu ddarpar aelodau
- Helpu gyda phroses recriwtio aelodaeth y gangen
- Trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion
- Cadw gwefan y gangen yn gyfredol
Gweinyddwr Cangen – Chi:
Bydd yr ymgeisydd delfrydol wedi'i addysgu hyd at lefel TGAU neu bydd yn meddu ar brofiad cyfatebol (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg)
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith tebyg a/neu ddealltwriaeth o weithio i undeb llafur neu sefydliad nid er elw arall
- Sgiliau rhyngbersonol cryf
- Sgiliau TG rhagorol
- Profiad gweinyddol cadarn
- Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun
Gweinyddwr Cangen – Buddiannau:
- Hawl hael i 35 diwrnod o wyliau'r flwyddyn yn ogystal ag wyth gŵyl banc, ac wyth diwrnod cau gyda hawl pro rata ar gyfer staff rhan amser
- Trefniadau absenoldeb anabledd
- Trefniadau absenoldeb arbennig
- Ystod o bolisïau a gweithdrefnau sy'n addas i bobl â theuluoedd gyda chynlluniau Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu, Absenoldeb Tadolaeth ac Absenoldeb Rhiant a Rennir ychwanegol
- Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n rhoi mynediad i wasanaeth cwnsela cyfrinachol 24 awr
- Mynediad i gyngor ac ymyriadau wyneb yn wyneb gan Uwch Ffisiotherapydd Siartredig drwy wasanaeth llwyddiannus y Llinell Gymorth Ffisiotherapi
- Asesiad Gofal Iechyd
- Cynllun oriau hyblyg ar gael drwy gytundeb lle gall cyflogeion amrywio eu hamseroedd dechrau a gorffen neu egwylion cinio o fewn y ffiniau a nodir yn y polisi Cydbwysedd Bywyd a Gwaith
- Fel rhan o'r contract, caiff pob cyflogai ei gofrestru â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion ac ar hyn o bryd, mae cyfraniad y cyflogai yn cyfateb i oddeutu 6.1% o'r cyflog a chyfraniad y cyflogwr yn cyfateb i oddeutu 14.5% o'r cyflog
- Cymorth ariannol gyda gofal plant
- Benthyciadau tocyn tymor di-log i dalu costau tocyn tymor ail ddosbarth rhwng y cartref a'r swyddfa
- Bydd UCU yn helpu gyda chost prawf llygaid a chost sbectol sylfaenol os oes ei hangen i ddefnyddio cyfarpar sgrin arddangos
- Mynediad at dros 300 o fodiwlau e-ddysgu drwy Ystafell Hyfforddiant ar-lein UCU
Proses Gwneud Cais
Mae UCU yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys â chymwysterau addas heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.
Cwblhewch y data amrywiaeth a chynhwysiant wrth wneud cais, hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr.
I wneud cais ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i fod yn Weinyddwr Cangen, cliciwch ar ‘Apply’ nawr.
Dyddiad Cau : 27 Tachwedd am 10 am.
Dyddiad Cyfweld: 11 Rhagfy
-
Weinyddwr Cangen
4 weeks ago
Cardiff, United Kingdom CV-Library Full timeMae gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau gyfle i Weinyddwr Cangen ymuno â'r tîm! Rhif Cyfeirnod: BA3 Lleoliad: Prifysgol Caerdydd, CF10 3AT (Mae gweithio o swyddfa'r gangen ar sail wirfoddol ar hyn o bryd) Cyflog: £27,018 y flwyddyn (£33,773 y flwyddyn pro rata) Oriau: 28 yr wythnos (35 yr wythnos pro rata) Math o Swydd:...
-
Weinyddwr Cangen
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom University and College Union Full timeMae gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau gyfle i Weinyddwr Cangen ymuno â'r tîm!Rhif Cyfeirnod: BA3Lleoliad: Prifysgol Caerdydd, CF10 3AT (Mae gweithio o swyddfa'r gangen ar sail wirfoddol ar hyn o bryd)Cyflog: £27,018 y flwyddyn (£33,773 y flwyddyn pro rata)Oriau: 28 yr wythnos (35 yr wythnos pro rata)Math o Swydd: Parhaol, Rhan Amser (0.8)Dyddiad cau:...