Gc655 Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd

2 weeks ago


Denbigh, Denbighshire, United Kingdom Grwp Cynefin Full time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Maer swydd hon yn cynnig cyfle i unigolion syn awyddus i ddatblygu gyrfa yn y maes atal digartrefedd, ac os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb: Dros dro hyd 30/09/2024**

**Cyflog**:£23,157 y flwyddyn pro rata

**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Buddiannau**

Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth

Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas

Cynllun arian parod iechyd Westfield Health

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu

Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu

**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion

2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru

Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol

Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol

**Y Swydd**

Canllawiau sut i ymgeisio: Canllawiau cwblhau

DS Gweithiwr Cefnogi Atal Digartrefedd -Iechyd

JD Homelessness Prevention Support Worker Mental

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

  • Denbigh, United Kingdom Grwp Cynefin Full time

    Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod. Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder....