![Gower College Swansea](https://media.trabajo.org/img/noimg.jpg)
Cyfarwyddwr Ystadau
1 week ago
Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.
**Y r**ô**l**:
Bydd y Cyfarwyddwr Ystadau yn gyfrifol am reoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau'r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Prosiectau Cyfalaf.
- Amser Llawn - 37 awr yr wythnos
- Swydd barhaol
- tua £60,000
**Cyfrifoldebau Allweddol**:
- Arwain, rheoli a gweithredu Strategaeth Ystadau'r Coleg.
- Cynllunio adnoddau ffisegol cynhwysfawr ac integredig hirdymor ar gyfer y Coleg, ei gyfadrannau a'i adrannau.
- Rheoli pob agwedd ar weithgarwch ystadau a chyfleusterau'r Coleg, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch.
- Cynllunio a threfnu adnoddau i hwyluso prosiectau cyfalaf strategol allweddol.
**Amdanoch chi**:
- Bydd gennych radd mewn disgyblaeth berthnasol.
- Bydd gennych ddealltwriaeth o agweddau cyfreithiol ac ariannol mewn perthynas â phrosiectau eiddo mawr.
- Byddwch yn meddu ar brofiad o weithio mewn rôl rheoli mewn sefydliad mawr.
- Bydd gennych sgiliau arwain a chynllunio strategol ardderchog.
**Buddion**:
- 37 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc. Mae'r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
- Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniad (ar gyfartaledd) o 21%
- Ffi ostyngedig o £60 i ymaelodi â champfa'r Coleg, ynghyd â mynediad at hyfforddwr ffitrwydd staff, maethegwr a dosbarthiadau ymarfer corff.
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi'u cynrychioli'n ddigonol o fewn ein sefydliad._
Os hoffech ymgymryd â'r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i'n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a'r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
-
Rheolwr Ystadau
1 week ago
Swansea, City and County of Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**:Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy'n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...
-
Cyfarwyddwr Ystadau
3 weeks ago
Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time**Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...