Gweinyddwr Cydymffurfiaeth

1 week ago


Swansea, City and County of Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Weinyddwr Cydymffurfiaeth brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'r adran Dysgu Seiliedig ar Waith.

Gan weithio mewn tîm prysur, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweinyddol cynhwysfawr ac effeithlon, gan gadw cofnodion manwl a chydymffurfio â manylebau contractau DSW.
Mae'r gallu i sefydlu a chynnal systemau gweinyddu manwl yn hanfodol, yn ogystal â gwybodaeth am Microsoft Office.

Wedi'ch addysgu i Lefel 2 (neu gymhwyster cyfwerth) mewn Gweinyddu Busnes, bydd gennych sgiliau rhifedd a mewnbynnu data cryf a byddwch yn gallu defnyddio pecynnau Word ac Excel yn hyderus. Bydd gennych lefel 2 (graddau A-C) neu gymwysterau cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwch yn dangos gallu cadarn o ran trefnu, yn gallu rhoi sylw rhagorol i fanylion ac yn gallu gweithio'n effeithiol o dan bwysau i gwrdd â therfynai amser. Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu ardderchog, byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd swyddfa brysur.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Mae Coleg Gwyr Abertawe'n cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg ac yn cydnabod hefyd yr angen i ddatblygu gweithlu dwyieithog. Rydym felly yn annog unigolion sy'n meddu ar Sgiliau Cymraeg da i wneud cais.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff rhannu'r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

  • Swansea, United Kingdom Gower College Swansea Full time

    **Amdanom ni**: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi...