Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

7 days ago

Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a thimau gwaith ieuenctid ar y stryd gyda phob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a phrofiadau creadigol sy'n annog cyfranogiad a datblygiad pobl ifanc mewn cymunedau.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn hyrwyddo cysylltiad cryf rhwng gwaith ieuenctid penodol a chyffredinol sy'n sicrhau y cynigir cymorth cyson i bobl ifanc pan fo angen hynny arnynt. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn annog pobl ifanc i gyflawni eu potensial unigol ac yn eu cefnogi ar eu taith i ddod yn ddinasyddion gweithredol cadarnhaol.

**Am Y Swydd**
Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Gwasanaeth Ieuenctid ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Mae'r swydd hon wedi ei lleoli yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoors.

Byddwch yn rhan o dîm deinamig a brwdfrydig sy'n gweithio â phobl ifanc ag anghenion cymhleth yn yr ardal. Nod eich rôl fydd cefnogi'r gweithiwr cymorth ieuenctid i gyflwyno projectau a rhaglenni o safon uchel i bobl ifanc rhwng 11-19 oed.

Mae profiad o weithio gyda phobl ifanc yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae ffocws ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar gryfderau ac sy'n rhoi'r person ifanc yn gyntaf hefyd yn hanfodol. Mae'r tîm yn ymrwymedig i ddull therapi sy'n canolbwyntio ar ddatrysiad byr ac mae hyn wedi'i adlewyrchu mewn gwaith cynllunio, darparu a gwerthuso yn ogystal ag yn y model goruchwylio a chymorth.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn gymwys yn broffesiynol ac wedi'ch cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid brwdfrydig a deinamig a fydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd i ysbrydoli a chymell pobl ifanc trwy waith ieuenctid mynediad agored uniongyrchol.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd ag agweddau cadarnhaol a gwydnwch i allu cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc ac annog cynnydd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus naill ai'n gymwys i lefel 3 gweithiwr cymorth ieuenctid o leiaf neu'n gweithio tuag at yr hyfforddiant hwn neu'n barod i ymgymryd â'r hyfforddiant o fewn cyfnod amser y cytunwyd arno.

Rydym yn chwilio am weithwyr ieuenctid sydd â phrofiad o asesu anghenion pobl ifanc ac sy'n ymateb yn briodol drwy weithgarwch, cymorth ac arweiniad o ran gwaith ieuenctid.

Rydym yn chwilio am unigolion rhagweithiol sydd â diddordeb amlwg mewn gweithio i gefnogi pobl ifanc fel bo nhw'n datblygu a ffynnu fel unigolion a chyfrannu'n gadarnhaol i'w cymuned.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Cyflog: £29,603 y flwyddyn PRO RATA (T00 Lefel 15)

Swydd ran amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 9 awr yr wythnos. Fodd bynnag, mae'r cyflog a ddangosir ar gyfer 37 awr yr wythnos, felly caiff ei roi ar sail pro-rata yn unol â hyn.

Mae'r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy'n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy'n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a'r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais drwy'r post.**

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau'r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00520

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service**Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o ddarpariaethau ledled y ddinas i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnwys tîm dawnus a brwdfrydig o weithwyr ieuenctid proffesiynol a gweithwyr cymorth ieuenctid sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time

    **Gweithiwr Cymorth Gwasanaeth Achlysurol - Adran Achosion Brys****Lleoliad: Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd****Math o gontract: Achlysurol****Oriau'r wythnos: Mae'r swydd ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch. Nid oes unrhyw oriau dan gontract nac isafswm oriau. Mae hwn yn sero awr.****Cyflog: £10.90 yr awr****Gofyniad Gyrru: Trwydded Yrru Lawn y DU â...

  • Mentor Ieuenctid

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae'n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy'n gweithredu ledled y ddinas. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob un...

  • Gweithiwr Cymorth

    7 days ago

    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas.Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau, yn...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy'n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â'r nod o gyflawni'r canlyniadau a nodwyd.**Am Y Swydd**Bydd yr...

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy'n cynnig cymorth i oedolion sydd ag anabledd dysgu ac anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda golwg ar fodloni eu hanghenion fel y'u nodwyd.**Am Y...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy'n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â'r nod o gyflawni'r canlyniadau a nodwyd.**Am Y Swydd**Bydd yr...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir.Ynglŷn â'r GwasanaethMae Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion. Mae'r Tîm yn cydweithio â nifer o asiantaethau camddefnyddio sylweddau partner yn y Ddinas yn y sector statudol a'r trydydd sector.-...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.**Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o'r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth,...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.- Mae ein diwylliant gweithio...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn parhau ei daith wella, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau canlyniadau rhagorol bob amser i bob plentyn a pherson ifanc yn ein gwasanaeth.I'n helpu i barhau â'n cynnydd cadarnhaol hyd yn hyn, rydym yn chwilio am ymarferydd GCI brwdfrydig, hunangymhellol a phrofiadol. Cynigir y swydd ar...

  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth**Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru.Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i...