Current jobs related to Mentor Lloches Cam-drin Domestig Arfon - Caernarfon, Gwynedd - Grwp Cynefin


  • Caernarfon, United Kingdom YGC - Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy Full time

    **Hysbyseb llawn a ffurflen gais ar gael yma: -** **Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r ffurflen gais ar wefan Cyngor Gwynedd, neu'r ffurflenni cais y gofynnir amdanynt gan y Gwasanaeth Cefnogol. Ni fydd unrhyw geisiadau neu CVs a gyflwynir trwy Indeed yn cael eu hasesu.** ............. **AMDANOM NI** Rydym yn sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth...

Mentor Lloches Cam-drin Domestig Arfon

3 months ago


Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom Grwp Cynefin Full time
Diolch am eich diddordeb yn y swydd Mentor Lloches Cam-drin Domestig Arfon.

**Mae'r swydd wedi ei heithrio o Ddeddf Cydraddoldeb Merched yn unig fydd yn cael eu hystyried.**

Mae Grŵp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014. Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder. Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.

Mae Gorwel yn uned fusnes o fewn Grŵp Cynefin syn darparu gwasanaethau o safon i:

- gefnogi pobl syn dioddef trais yn y cartref
- gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd

Rydym yn gweithio gydag unigolion a theuluoedd, rhai ohonynt yn denantiaid Grŵp Cynefin, o fewn pedair sir gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gennym staff profiadol a phroffesiynol yn gweithio o swyddfeydd ym Mhenygroes, Caernarfon, Llangefni, Pwllheli, Dinbych, Dolgellau a Blaenau Ffestiniog.

**Gwasanaethau Trais yn y Cartref Gwynedd ac Ynys Môn**

**Llochesi a chefnogaeth mewn argyfwng**

**Cynllun CefnogaethSymudol ac Ymyrraeth Argyfwng**

Maer Cynllun Cefnogaeth Symudol ac Ymyrraeth Argyfwng gennym yn cefnogimerched, dynion au teuluoedd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon ywr swydd i chi.

**Y Pecyn**

**Math o gytundeb**: Parhaol

**Cyflog**:£21,208 y flwyddyn pro rata

**Oriau**:21 awr yr wythnos

**Gwyliau**:36 diwrnod y flwyddyn yn cynnwys gwyliau banc statudol pro rata

**Teithio**:Defnyddiwr Car Achlysurol

**Pensiwn**:Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)

**Buddiannau**

Mynediad in Cynllun Cymorth Cyflogaeth

Cyfleusterau gweithio hyblyg ar gallu i weithio o bell/ gweithio gartref os yn addas

Cynllun arian parod iechyd Westfield Health

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos

Cynllun fflecsi yn cael ei weithredu

Cyflog salwch**:Mae cynllun tâl salwch galwedigaethol yn cael ei weithredu

**Lwfansau Absenoldebau**:
5 diwrnod pro rata mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i ofalu am ddibynyddion

2 ddiwrnod pro rata gyda thâl i briodi, i symud tŷ, i ysgaru

Amser credyd rhesymol ar gyfer apwyntiadau meddygol

Hyd at 10 diwrnod pro rata gyda thâl ar adegau o brofedigaeth. Hyd at 3 mis pro rata gyda thâl i ofalu am berthynas agos â chlefyd terfynol

**Datblygiad Personol**:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig âr wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd

**Y Swydd**

Disgrifiad Swydd Cymraeg - Mentor Lloches Cam-drin Domestig
Job Description English - Domestic Abuse Refuge Mentor

**Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)**

Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Manwl gyda rhestrau gwahardd ar gyfer y swydd hon.

**Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.