Cydlynydd Cynrychiolaeth Academaidd

2 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff University Students' Union Full time

Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn ymuno â Thîm Llais y Myfyriwr ac yn cefnogi holl weithgarwch y tîm ym meysydd cynrychiolaeth, democratiaeth ac ymgyrchoedd. Bydd y rôl yn bennaf yn goruchwylio gweithredu a chynnal y cynllun cynrychiolaeth academaidd myfyrwyr.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Mae Tîm Llais y Myfyriwr yn rheoli sawl maes gweithgarwch, a bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfforddus wrth weithio mewn amgylchedd prysur. Rhaid i chi allu gweithio mewn amgylchedd democrataidd llawn ymgyrchu tra’n aros yn gwbl ddiduedd.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn ddibynadwy a’n gydwybodol, gyda’r gallu i gynhyrchu gwaith o safon uchel yn gyflym gyda sylw at fanylion. Mae’r gallu i ddeall ac ymdopi â gwybodaeth o sawl ffynhonnell yn bwysig, gyda’r sgiliau i lunio a chyflwyno crynodeb o bwyntiau allweddol i randdeiliaid mewn modd cytbwys hefyd yn hanfodol. Bydd hefyd angen i ymgeiswyr fod yn hynod o drefnus, fod yn gyfforddus gyda phecynnau ICT, a meddu ar y sgiliau perthnasol er mwyn rheoli terfynau amser amrywiol ar gyfer gwahanol brosiectau.

Mae profiad o fewn amgylchedd addysg uwch yn hanfodol, a dylai fod gan ymgeiswyr diddordeb gwirioneddol mewn datblygiad polisi addysgol cenedlaethol a lleol. Dylech hefyd meddu ar brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr, a gallu defnyddio hyn mewn amgylchedd addysg uwch.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus egni a brwdfrydedd, a byddant yn gyffrous i gael effaith bositif ar fyfyrwyr a gweithio tuag at wella profiadau ein 30,000 o aelodau.

#J-18808-Ljbffr